English icon English

Cynllun newydd i leihau nifer y marwolaethau a achosir gan heintiau sy’n ymwrthod â gwrthfiotigau

New plan to reduce deaths caused by infections resistant to antibiotics

Wrth iddynt lansio’r cam nesaf mewn cynllun 20 mlynedd i leihau ymwrthedd i wrthfiotigau, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi dweud bod rhaid i bawb chwarae eu rhan i’w atal. Mae mwy o bobl yn cael eu lladd ar draws y byd o ganlyniad i ymwrthedd i wrthfiotigau nag unrhyw achos arall bron

Yn 2019, yn ôl yr amcangyfrifon, roedd 7,600 o farwolaethau a gafodd eu hachosi’n uniongyrchol gan heintiau sy’n ymwrthod â gwrthfiotigau (nifer tebyg i’r marwolaethau yn y DU o ganlyniad i ganser y stumog). Roedd hefyd 35,200 o farwolaethau a gafodd eu hachosi'n anuniongyrchol gan heintiau sy’n ymwrthod â gwrthfiotigau.

Hyd yn oed os bydd y claf yn goroesi, mae heintiau yn llawer mwy difrifol ac yn anoddach i’w trin yn llwyddiannus o ganlyniad i ymwrthedd i wrthfiotigau.

Ond gall camau syml i atal heintiau ac osgoi’r defnydd amhriodol o wrthfiotigau mewn pobl ac anifeiliaid helpu i atal rhai o’r marwolaethau hyn.

Heddiw (dydd Mercher 8 Mai), cafodd cynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd y DU 2024-29 ei lansio.

O dan y cynllun, mae’r DU yn addo i leihau’r angen am gyffuriau gwrthficrobaidd – fel meddyginiaethau gwrthfiotig, gwrthffwng a gwrthfeirol – ac i’w defnyddio yn y ffordd orau bosibl, mewn pobl ac anifeiliaid. Mae'r cynllun hefyd yn golygu y bydd y DU yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer cadw gwyliadwriaeth ar heintiau ag ymwrthedd i gyffuriau cyn iddynt ddod i’r amlwg ac yn cymell y diwydiant i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o driniaethau.

Yn 2019, cyhoeddodd pob llywodraeth yn y DU weledigaeth 20 mlynedd i ynysu, rheoli a lliniaru achosion o ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) erbyn 2040.

Er gwaetha’r pandemig Covid, mae’r DU wedi llwyddo i leihau cysylltiad pobl â gwrthficrobau o fwy nag 8% ers 2014 a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd o 59% rhwng 2014 a 2022.

Yn 2023, cafodd 15% yn llai o wrthfiotigau eu rhoi ar bresgripsiwn mewn ymarfer cyffredinol yng Nghymru nag yn 2014. Cafodd hyn ei gyflawni drwy waith caled a diwyd y presgripsiynwyr, fferyllwyr cymunedol a thimau byrddau iechyd sy’n gweithio yn y gymuned.

Dywedodd Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

“Rydyn ni am adeiladu ar lwyddiant pum mlynedd gyntaf y cynllun hwn a pharhau i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y gall pawb ei wneud i helpu i drechu AMR.

“Mae atal heintiau yn y lle cyntaf yn rhan bwysig o fynd i’r afael ag AMR. Gall golchi eich dwylo’n rheolaidd gan ddefnyddio sebon a dŵr leihau’r risg o fod yn sâl a lledaenu bacteria niweidiol i bobl eraill. 

“Mae cymryd gwrthfiotigau pan nad oes eu hangen nhw arnoch chi yn golygu eu bod nhw’n llai tebygol o weithio yn y dyfodol. Does dim angen gwrthfiotigau ar bob haint, ac mae llawer o heintiau bacterol ysgafn yn gwella ar eu pennau eu hunain.

“Nid yw gwrthfiotigau’n gweithio ar gyfer heintiau feirws fel annwyd a’r ffliw, a’r rhan fwyaf o beswch a dolur gwddf. O ran gwrthfiotigau, dylech wrando ar eich meddyg a fydd yn gallu dweud wrthych a oes eu hangen arnoch ai peidio.”

Dywedodd Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:

Diolch i drefniadau gweithio mewn partneriaeth rhagorol, mae Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd pum mlynedd blaenorol y DU. Rydyn ni’n bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan ddilyn dull Iechyd Cyfunol. 

Mae defnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid a phobl yn un o’r prif achosion sy’n ysgogi AMR. Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid er mwyn sicrhau bod y meddyginiaethau hyn yn parhau i weithio mewn anifeiliaid, ac i atal AMR rhag lledaenu o anifeiliaid i bobl.

 Mae ein gwaith ar reoli AMR yn mynd i’r afael â phob anifail sy’n cael ei gadw. Un o’r prif flaenoriaethau yn achos anifeiliaid ar y fferm yw hybu systemau cynhyrchu hynod iach, sydd o fudd i les anifeiliaid ac i gynhyrchiant ac sydd hefyd yn lleihau risgiau AMR. Rydyn ni’n bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yng Nghymru i annog mwy o reolaeth ar AMR yn y sector anifeiliaid anwes.

Rwy'n edrych ymlaen at weld Cymru yn gwneud cyfraniad mawr i gynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd pum mlynedd y DU.

Dywedodd Robin Howe, Microbiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu lansio’r cam nesaf hwn o gynllun 20 mlynedd i leihau ymwrthedd i wrthfiotigau erbyn 2040.

Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i helpu i atal ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae'n bwysig ein bod ni’n defnyddio gwrthfiotigau yn union fel y bydd meddyg, nyrs neu fferyllydd yn dweud wrthym. Ni ddylai gwrthfiotigau gael eu cadw gan unrhyw un i’w defnyddio rywbryd eto ac ni ddylai pobl eu rhannu â theulu, ffrindiau neu anifeiliaid anwes. Os oes gennych chi wrthfiotigau sydd heb eu defnyddio, dylech eu dychwelyd i’ch fferyllfa leol. Mae eu taflu yn y bin neu eu fflysio i lawr y toiled yn arwain at halogi afonydd gan fygwth iechyd pobl ac anifeiliaid.

Mae gwrthfiotigau yn adnodd gwerthfawr y mae’n rhaid inni ei ddiogelu.

Nodiadau i olygyddion

  • National Action Plan - UK 5-year action plan for antimicrobial resistance 2024 to 2029 - GOV.UK (www.gov.uk)
  • A number of teams across the UK are responsible for delivering commitments under the NAP. These include DHSC, Defra, UKHSA, NHSE and the Devolved Governments. Responsibility has and will be further detailed in implementation plans as they develop, including action each organisation will take to meet different commitments. These will be continually reviewed and challenged internally.