English icon English

Ffioedd deintyddol y GIG i gynyddu o fis Ebrill

NHS dental charges in Wales to increase from April

Bydd cost triniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru yn cynyddu o 1 Ebrill.

Dyma'r cynnydd cyntaf mewn ffioedd deintyddol ers mis Ebrill 2020 ac ar y cyfan maent yn parhau i fod yn is nag yn Lloegr. Bydd unrhyw refeniw a gynhyrchir o'r ffioedd uwch hyn yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i wasanaethau deintyddol y GIG.

O fis Ebrill 2024, bydd y tair ffi safonol yn cynyddu i rhwng £20.00 a £260.000 yn dibynnu ar y math o driniaeth sydd ei hangen a bydd cost triniaeth frys yn cynyddu i £30.

Ar hyn o bryd mae tua 50% o bobl yn cael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim yng Nghymru. Mae'r rhai sy'n gymwys i gael triniaeth am ddim yn cynnwys plant o dan 18 oed neu'r rhai sy'n 18 oed ac mewn addysg llawn amser, menywod beichiog neu'r rhai sydd wedi cael babi o fewn 12 mis i ddechrau'r driniaeth, unrhyw un sy'n cael triniaeth ddeintyddol mewn ysbyty a phobl ar rai budd-daliadau penodol.

Yn ogystal, mae'r cynllun incwm isel yn cynnig cymorth llawn, neu gymorth rhannol, gyda chostau iechyd, yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn.

Er gwaethaf y pwysau ar gyllidebau, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r buddsoddiad ar gyfer deintyddiaeth, gan roi £27 miliwn yn fwy o gyllid o’i gymharu â 2018-19. Wedi'i gynnwys yn y cynnydd hwn mae £2 filiwn ychwanegol y flwyddyn i fynd i'r afael â materion mynediad lleol.

Mae newidiadau i'r contract deintyddol yng Nghymru yn cynnwys gofyniad i bractisau'r GIG weld cleifion newydd. Ers ei gyflwyno ym mis Ebrill 2022 mae cyfanswm o 312,000 o bobl na allent gael apwyntiad o'r blaen wedi cael triniaeth ddeintyddol y GIG.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

 Oherwydd y pwysau eithriadol ar ein cyllideb rydym wedi gorfod ystyried a ddylid codi cyllid ychwanegol drwy gynyddu ffioedd yn y maes deintyddol.

Dyma'r cynnydd cyntaf rydym wedi'i wneud i ffioedd deintyddol ers 2020. Does dim rhaid i tua hanner y cleifion dalu am driniaeth ddeintyddol y GIG, a byddwn yn parhau i ddiogelu'r rhai sydd leiaf abl i fforddio i dalu.

Mae'n hanfodol bod pob un ohonom yn cadw ein dannedd a'n deintgig yn iach. Dyna pam rydym yn gweithio i'w gwneud yn haws i bobl weld deintydd y GIG drwy gynyddu nifer y lleoedd GIG newydd a helpu deintyddion i ganolbwyntio ar y rhai sydd angen cymorth drwy newid pa mor aml rydym yn gweld deintydd ar gyfer apwyntiadau rheolaidd.

Nodiadau i olygyddion

Table of dentistry charges and their comparison to England

Dental Patient Charges

(example of care/treatment)

Wales

2023-24

Wales

From 1st April 2024

England

2023-24

 

England

(proposed)

From April 2024

Band 1 (examination, x-rays, scale & polish)

£14.70

£20.00

£25.80

£26.80

Band 2 (fillings, extractions, root canal treatment)

£47.00

£60.00

£70.70

£73.50

Band 3 (crowns, dentures & bridges)

£203.00

£260.00

£306.80

£319.10

Urgent (urgent and out of hours)

£14.70

£30.00

£25.80

£26.80

 

More information on dental charges and exemptions can be found here: NHS dental charges and exemptions | GOV.WALES

The NHS online checker can also provide information on if someone is entitled to help with dentistry costs. .

All health boards have arrangements in place to provide emergency dental treatment, advice and support. People seeking treatment should contact the dental helpline or NHS 111 and they will be able to be assessed whether urgent treatment is needed, or whether the patient can be seen at the next earliest opportunity during normal hours.