English icon English
SVW-E18-2122-0060- Welsh Flag on Mountains - Visit Wales

Gweinidog yr Economi yn datgelu rhaglen brysur o deithiau masnach rhyngwladol ar gyfer Gwanwyn 2023

Economy Minister unveils busy programme of international trade missions for Spring 2023

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu rhaglen lawn o deithiau masnach rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwanwyn 2023, gan gefnogi busnesau Cymru sy'n teithio'r byd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu eu hallforion.

Gwneir y cyhoeddiad wrth i'r ddirprwyaeth fusnes ddiweddaraf o Gymru deithio i Dubai yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) ar gyfer sioe fasnach feddygol fwyaf y Dwyrain Canol - Arab Health - ar y 28ain o Ionawr 2023. Bydd busnesau o sectorau amrywiol yn ymuno â’r busnesau Technoleg Feddygol sy’n chwilio am gyfleoedd yn yr hwb masnach byd-eang hwn.

Ym mis Mawrth bydd busnesau o Gymru yn ymweld â Dulyn i gyfarfod â darpar gleientiaid a phartneriaid newydd, fel rhan o gyfres o weithgareddau i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol yng nghyfnod Dydd Gŵyl Dewi. Iwerddon yw'r 4ydd cyrchfan fwyaf poblogaidd i allforion Cymru, ac mae'n cynnig cyfle gwych i fusnesau ar draws pob sector.

Hefyd, mae asiantaeth Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, Cymru Greadigol, yn arwain cenhadaeth i gefnogi busnesau yn y Game Developers Conference (GDC) 2023 yn San Francisco. Bydd busnesau eraill o Gymru yn ymuno â'r ddirprwyaeth yn GDC sy'n gobeithio datblygu eu hallforion yn ardal Bae San Francisco, sy'n rhan o California gyda GDP o dros hanner triliwn o Ddoleri.

O fis Ebrill ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn arwain saith taith fasnach newydd i bum gwlad ar draws tri chyfandir. Dewiswyd y marchnadoedd ac arddangosfeydd yn y rhaglen i adlewyrchu'r datblygiadau rhyngwladol cyfredol sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i fusnesau Cymru.

Gall ymweld â'r farchnad allforio ei hun fod yn elfen hanfodol o ennill a chynnal busnes, boed hynny'n ymweld ag arddangosfa neu rwydweithio â chwsmeriaid posibl ac mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd allforwyr Cymru i gofrestru i fod yn bresennol.

Mae'r rhaglen newydd yn parhau gyda chenhadaeth fasnach i Atlanta, Georgia ar gyfer MRO Americas rhwng y 18fed a'r 20fed o Ebrill. Bydd cwmnïau hedfan, cynnal a chadw cludiant awyr masnachol, cyflenwyr trwsio ac atgyweirio, gweithgynhyrchwyr, rheoleiddwyr, ac arbenigwyr o'r diwydiant yn cwrdd ar gyfer digwyddiad mwyaf blaenllaw'r diwydiant yng Ngogledd America.

Rhwng y 25ain a'r 27ain o Ebrill, bydd busnesau'n mynychu JEC Paris, sy'n un o'r sioeau masnach mwyaf blaenllaw ar gyfer y diwydiant cyfansawdd, gan ddenu 1,300 o arddangoswyr a dros 45,000 o ymwelwyr.

Mae Teithiau Masnach wedi'u hyrwyddo o dan frand Cymru Wales yn cefnogi ymdrechion ehangach i godi proffil Cymru ar y llwyfan byd-eang. Gan adeiladu ar ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022, mae busnesau'n dychwelyd i Doha, Qatar ym mis Mai i ddatblygu cyfleoedd masnachol newydd.

Ym mis Mehefin bydd cyfnod prysur i allforwyr Cymru gyda nifer o deithiau masnach. Rhwng y 3ydd a'r 9fed, bydd dirprwyaethau'n mynd i Gonfensiwn Rhyngwladol BIO yn Boston, UDA. Mae Confensiwn Rhyngwladol BIO yn denu dros 14,000 o arweinwyr biotechnoleg a fferyllol am wythnos o rwydweithio dwys i ddarganfod cyfleoedd newydd a phartneriaethau addawol. Bydd dirprwyaeth aml-sector o fusnesau hefyd yn ymweld â Boston.

Yn ôl yn Ewrop, bydd Cymru'n anfon dirprwyaeth i Amsterdam, Yr Iseldiroedd ar gyfer Money 20/20 Europe rhwng y 5ed a'r 9fed o Fehefin. Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i gysylltu â lleisiau dewraf a disgleiriaf technoleg ariannol i ymchwilio i'r heriau presennol a llywio'r hyn sy'n dod nesaf i'r ecosystem arian yn Ewrop a thu hwnt.

Yna, bydd y rhaglen yn mynd ymlaen i Baris, Ffrainc ar gyfer Sioe Awyr eiconig Paris rhwng y 19eg a'r 25ain o Fehefin. Fe'i sefydlwyd yn 1909, dyma'r digwyddiad awyrofod mwyaf yn y byd a chyfle i rwydweithio â chwaraewyr allweddol yn y diwydiant awyrofod byd-eang.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughn Gething:

"Mae allforio yn hanfodol i lawer o'n busnesau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w cefnogi i ehangu a llwyddo.

"Wrth i'r ddirprwyaeth ddiweddaraf o fusnesau gwych deithio o Gymru i Dubai ddiwedd yr wythnos, rwy'n falch iawn o gadarnhau rhaglen lawn o deithiau masnach y gwanwyn hwn, gan gynnwys i Ogledd America, Ewrop a'r Dwyrain Canol. Mae'r rhain yn farchnadoedd allforio hanfodol i Gymru, ac rwy'n hyderus y bydd y teithiau'n helpu cwmnïau ledled Cymru i adeiladu ar eu llwyddiant o ran allforio.

"Wrth i ni gyflawni'r Cynllun Gweithredu Allforio, byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyfan cadarn sydd wedi ei osod yn ystod y deuddeg mis diwethaf wrth inni adfer o Covid. Mae mynychu arddangosfeydd a marchnadoedd masnach rhyngwladol wedi'u targedu yn hanfodol i ddatblygu allforion a gwella cystadleurwydd ein busnesau yng Nghymru. Rwy'n dymuno llwyddiant mawr i bob busnes sy'n cymryd rhan."

Bydd rhaglen lawn 2023/24 yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth wrth i Gynhadledd Archwilio Allforio Cymru ddychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 09 Mawrth a Gwesty'r Village, Ewlo, ar 16 Mawrth 2023.

Nodiadau i olygyddion

For a full list of overseas trade missions and details on how to attend, please click here: https://businesswales.gov.wales/export/overseas-events

Business Wales is a branch of the Welsh Government and offers free advice to businesses in Wales to succeed at home and abroad.

For more details on the trade mission to Dubai, UAE for Arab Health 2023, click here: https://businesswales.gov.wales/export/export-events/overseas-events/arab-health-2023

Itinerary for Q1 2023/24 (not including food and drink sector focused events)

  • 25-27 April JEC Paris, France
  • 18-20 April MRO Americas, Atlanta, USA
  • 13- 19 May Market visit to Doha, Qatar
  • 3-9 June Bio International Convention, Boston, USA
  • 3-9 June Boston Export Market Visit: Multi-sector, Boston, USA
  • 5-9 June Money 20/20 Europe, Amsterdam, Netherlands
  • 19-25 June Paris Air Show, Paris, France