English icon English
Addo-6

Mwynhewch Gymru mewn modd diogel yr haf hwn

Make a promise to enjoy Wales safely this summer

Gyda’r ysgolion bellach ar eu gwyliau, mae Croeso Cymru wedi ymuno gyda Mentro’n Gall Cymru ar ymgyrch i ddangos i bobl sut i fwynhau’r awyr agored mewn modd diogel dros yr wythnosau nesaf.

Wrth i bobl fynd allan i ddarganfod antur yr haf hwn,  mae ymgyrch Addo yn gofyn i bobl gynllunio ymlaen llaw a pharatoi.

Bydd yr  ymgyrch sy’n cynnwys hyrwyddo ar cyfryngau cymdeithasol, radio digidol a Spotify yn dangos y gall meddwl am funud cyn mentro i fwynhau’r dirwedd a’r arfordir arwain at brofiad cadarnhaol a diogel.

Drwy ofyn tri chwestiwn syml, sydyn gall pobl sicrhau eu bod nhw’n diogelu eu hunain a phobl eraill:

  • A oes gennyf yr wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
  • Ydw i’n gwybod sut bydd y tywydd,
  • ac a oes gennyf y dillad a’r offer cywir ar gyfer y gweithgareddau a’r amodau?

Gofynnir i bobl roi sylw i arwyddion a chyngor diogelwch lleol, fel dewis i nofio ar draethau ag achubwr bywydau a nofio rhwng y baneri coch a melyn. Drwy gynllunio ymlaen llaw a pharatoi, gall pobl gael hwyl a bod yn ddiogel yr haf hwn.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: “Mae pawb am gael gwyliau eleni, ond mae angen hefyd wneud yn siŵr ein bod yn gofalu amdanon ni ein hunain a phobl eraill wrth wneud hynny. Bydd cymryd munud i feddwl cyn ichi gychwyn ar eich antur nesaf yng Nghymru yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’ch mwynhad a’ch diogelwch.”

Dywedodd Emma Edwards-Jones, Cydarweinydd ymgyrch Mentra’n Gall: “Gyda’i chyfuniad hyfryd o fryniau, mynyddoedd, llynnoedd ar arfordiroedd, Cymru yw’r lleoliad perffaith ar gyfer mwynhau antur yn yr awyr agored. Bydd mentro’n gall a rhoi amser i gynllunio eich diwrnod yn sicrhau eich bod yn mwynhau eich amser yn fwy o lawer, a byddwch yn cyrraedd gartref yn ddiogel. Drwy asesu eich gallu a’ch sgiliau, gwybod sut bydd y tywydd a gwneud yn siŵr bod gennych y dillad a’r offer cywir, gallwch helpu ein gwasanaethau achub i fwynhau eu haf nhw hefyd!