English icon English

Newyddion

Canfuwyd 191 eitem, yn dangos tudalen 12 o 16

Welsh Government

Hwb ariannol o £9 miliwn i gynlluniau band eang

Bydd cynlluniau band eang ledled Cymru yn derbyn gwerth dros £9 miliwn o gyllid i'w helpu i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i gymunedau sydd ei angen, diolch i Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru.

Welsh Government

Cymorth i gefn gwlad Cymru yn dilyn hwb i dwristiaeth

Heddiw (dydd Mercher, 25 Mai), mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi £26m i gyfyngu ar ôl troed carbon twristiaeth yng Nghymru, hybu bioamrywiaeth a gwella mynediad i gefn gwlad fel y gall pawb fwynhau ei harddwch.  

Welsh Government

Neges y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Ddiwrnod Bioamrywiaeth y Byd yw ‘cymerwch gamau bach i wella mannau gwrdd’

“Mae’n argyfwng natur arnon ni ac yn awr, yn fwy nag erioed, rhaid i ni helpu ein bywyd gwyllt.”

Welsh Government

Cyhoeddi adolygiad annibynnol o lifogydd i helpu Cymru i addasu i newid hinsawdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21 wedi'i lansio.

Welsh Government

£182m i gefnogi byw’n annibynnol a lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

“Mae cael cartref addas a fforddiadwy yn hanfodol i iechyd a llesiant pawb.”

Welsh Government

Buddsoddiad mawr a fydd yn annog beicio ac yn helpu Cymru i fod yn sero-net

Annog pobl i gefnu ar eu ceir a dechrau beicio yw nod buddsoddiad gwerth £50 miliwn a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters (dydd Gwener 13 Mai).

Building safety pic-2

Galw am ddull gweithredu ledled y DU o ran diogelwch adeiladau

Mae Julie James, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, wedi galw o'r newydd am ddull ledled y DU o ddiogelu adeiladau wrth iddi nodi'r cynnydd y mae Cymru wedi'i wneud o ran cywiro diffygion mewn adeiladau yng Nghymru.

Welsh Government

Bwriad i sefydlu awdurdod goruchwylio i gadw llygad ar ddiogelwch tomenni glo er mwyn 'sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi'

Heddiw (dydd Iau, 12 Mai), mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno cyfraith newydd i reoli gwaddol canrifoedd o fwyngloddio yng Nghymru. Bydd y cynlluniau hynny’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch cymunedau.

Welsh Government

Ystadegau newydd: Pam mae Cymru yn allanolyn yng nghyfraddau ailgylchu’r DU?

Mae ystadegau ailgylchu gwastraff y DU a ryddhawyd heddiw yn dangos bod Cymru'n perfformio'n llawer gwell na gwledydd eraill y DU am o leiaf y degfed flwyddyn yn olynol:

  • Cymru 56.5%
  • Yr Alban 41.0%
  • Lloegr 44.0%
  • Gogledd Iwerddon 49.1%
  • Cyfartaledd y DU 44.4%
Welsh Government

Llywodraeth Cymru yn darparu £2.8m i atgyweirio ffordd a ddifrodwyd gan stormydd yn Wrecsam

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £2.8 miliwn i Gyngor Wrecsam i wneud gwaith atgyweirio hanfodol i'r B5605 yn Nhrecelyn, ger Wrecsam

Welsh Government

Mae’n bryd codi safonau tai Cymru

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, 10 Mai) ei bod am lansio ymgynghoriad ar safon ansawdd newydd sy’n cael ei chynnig ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru.