English icon English

Newyddion

Canfuwyd 205 eitem, yn dangos tudalen 12 o 18

Welsh Government

AMRC Cymru yn cynnal prosiect i hybu cynhyrchiant a lleihau allyriadau

Mae prosiect ymchwil a datblygu arloesol i wella cynhyrchiant a pherfformiad amgylcheddol busnesau yn y sectorau awyrofod a bwyd a diod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru ym Mrychdyn. 

Welsh Government

Dirprwyaeth o Japan yn gweld potensial ynni carbon isel yng Ngogledd Cymru

Mae dirprwyaeth o Gymdeithas Ynni Gwynt Japan wedi bod yn ymweld â Gogledd Cymru yr wythnos hon er mwyn gweld rhai o’r datblygiadau cyffrous sy’n mynd rhagddynt yn yr ardal.

Welsh Government

Gweledigaeth newydd i sicrhau dyfodol disglair i sector manwerthu Cymru

  • Gweledigaeth newydd sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru, y sector manwerthu ac undebau llafur yn cydweithio er mwyn datblygu sector cryf, cynaliadwy, arloesol a llwyddiannus
  • Manwerthu yw cyflogwr sector preifat mwyaf Cymru – yn darparu swyddi i fwy na 114,000 o bobl ar draws y wlad
  • Mae’r weledigaeth yn gosod uchelgeisiau i sicrhau bod manwerthu yn aros wrth wraidd cymunedau Cymru drwy gynnig gwaith teg a chyfleoedd gyrfa gwirioneddol i bobl
  • Mae’n cynnwys mesurau i helpu’r sector oresgyn yr heriau recriwtio a chadw staff a achoswyd gan bandemig Covid a’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â’r effaith ar gostau gweithredu ac arferion defnyddwyr o ganlyniad i’r argyfwng costau byw
Welsh Government

Rhaglen flaenllaw newydd i helpu mwy o bobl i gael gwaith gyda “chymorth sydd yr un mor unigryw â chi”

  • Cynllun newydd gwerth £13.25m y flwyddyn i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl i gael gwaith ledled Cymru
  • Bydd ReAct+ hefyd yn rhoi cymorth i gyflogwyr o ran cyflog a hyfforddiant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar gyfer staff sydd newydd eu cyflogi
  • Mae’r rhaglen yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl i gael gwaith ac aros mewn gwaith

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio rhaglen flaenllaw newydd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi cymorth personol i bobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Cwtsh Hostel-2

Cefnogi entrepreneuriaid a datblygiadau llety yn Abertawe

Yn ystod ymweliad, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi gweld sut mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu entrepreneuriaid lleol i ddatblygu llety newydd o ansawdd uchel yn Abertawe a’r Mwmbwls.

Welsh Government

Cwmni o’r Barri yn ennill cytundeb i allforio anadlenyddion i’r Ffindir

Mae cwmni o Gymru a gynhyrchodd yr anadlennydd electronig cyntaf yn y byd wedi arwyddo cytundeb i allforio cannoedd o anadlenyddion i Lywodraeth y Ffindir, diolch i gymorth allforio gan Lywodraeth Cymru.

Gottwood-2

Cadarnhau Cefnogaeth Digwyddiadau Cymru i Wyliau Gottwood a Merthyr Rising

Bydd Gwyliau Gottwood a Merthyr Rising yn cael eu cynnal dros benwythnos 9-12 Mehefin ac rydyn ni’n disgwyl ymlaen yn fawr at groesawu’r torfeydd yn ôl i ddau ben y wlad.

Laboratory Stock Image-3

Prifysgolion Cymru yn newid bywydau gyda deallusrwydd artiffisial a gwyddor data

Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prifysgolion a deallusrwydd artiffisial yn newid bywydau ac yn helpu Cymru i ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y maes. Fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae £500,000 o gyllid yn cael ei rannu rhwng 22 o brosiectau arloesol.

Down to Earth-2

Hwb o £2.9m i Y Pethau Pwysig Cymru - y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gwyliau

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £2.9m o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ymhlith 18 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru. 

working-10

Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gymryd lle rhaglenni a ariennir gan yr UE i gefnogi pobl sydd â rhwystrau cymhleth i ddod o hyd i waith

  • Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy yn dilyn methiant Llywodraeth y DU i gadw eu haddewid i ddisodli cyllid yr UE yn llawn drwy'r Gronfa Ffyniant a Rennir.
  • Rhaglen Cymru gyfan wedi ei hehangu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru i'w lansio ym mis Ebrill 2023.
  • Estynnwyd dau gynllun presennol a ariennir gan yr UE am flwyddyn ychwanegol er mwyn sicrhau pontio llyfn.