Newyddion
Canfuwyd 99 eitem, yn dangos tudalen 2 o 9
Sioe lwyddiannus HBO, House of the Dragon, yn dychwelyd i’r sgrin fach ar ôl ffilmio yng Ngogledd Cymru
Mae’n bosibl y bydd gwylwyr craff yn sylwi ar leoliadau cyfarwydd iawn yn y rhaglun a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer yr ail gyfres o House of the Dragon. Yn sgil cymorth gan Cymru Greadigol, cafodd Gogledd Cymru ei ddefnyddio fel safle ffilmio ar gyfer ail gyfres y sioe lwyddiannus.
Llên gwerin Cymru yn ysbrydoli gêm fideo CGI newydd 'Maid of Sker 2'
Mae cefnogaeth gan gyllid cynhyrchu Cymru Greadigol wedi galluogi cwmni gemau blaenllaw o Gymru Wales Interactive i greu Maid of Sker 2, gêm fideo CGI i ddilyn y gem wreiddiol arobryn.
Pasbort i ymweld â threftadaeth Cymru – dechreuwch yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn dychwelyd ar gyfer y gwyliau hanner tymor (dydd Sadwrn 28 Hydref – dydd Sul 5 Tachwedd) gydag wythnos o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu hanes a diwylliant amrywiol ein gwlad.
Stori lwyddiannus i’r sector cyhoeddi
Bydd Cymru Creadigol yn arwain y daith fasnach gyntaf i’r 75ain Ffair Lyfrau Frankfurt/Frankfurter Buchmesse rhwng 18 a 22 Hydref.
Prif Weinidog Cymru yn croesawu'r penderfyniad ynghylch EURO UEFA 2028.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi croesawu'r newyddion heddiw y bydd Cymru'n cynnal gemau yn rowndiau terfynol twrnament pêl-droed rhyngwladol mawr am y tro cyntaf.
Cyflwyno Cymru i Brynwyr Rhyngwladol
Bydd cynrychiolwyr o bron i 30 o brif gwmnïau teithiau - sy'n gyfrifol am ddod â miloedd o ymwelwyr rhyngwladol o bob cwr o'r byd i'r DU bob blwyddyn - yn cymryd rhan mewn digwyddiad 'Darganfod Cymru' yng Nghaerdydd a'r cyffiniau rhwng 8-10 Hydref.
Ceidwaid Ifanc o Gastell-nedd yn darganfod mwy am eu treftadaeth leol
Yn ddiweddar, aeth Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Diwylliant a Chwaraeon, Dawn Bowden i ymweld ag Abaty Castell-nedd i weld sut mae cynllun Cadw yn ennyn diddordeb a balchder ymhlith disgyblion ysgol leol am y safle mynachaidd trawiadol – ar garreg eu drws.
Sinema Cymru - Cyhoeddi cronfa newydd i hybu ffilmiau Cymraeg
Mae cronfa i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â'r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol, bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Buddsoddiad yr Unol Daleithiau yn hwb i sector ffilm a theledu llwyddiannus Cymru.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi gwerthu Seren Stiwdios yng Nghaerdydd i gwmni seilwaith cyfryngau mawr Great Point Studios sydd wedi lesio'r stiwdio ers 2020.
Ffocws ar Amgueddfeydd yng Nghymru
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos y cyfraniad pwysig y mae amgueddfeydd yn ei wneud i fywyd diwylliannol ac economi Cymru.
Vive Le Cymru! Ymgyrch i ddangos diwylliant Cymru i ffans rygbi yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc
Wrth i Gwpan Rygbi'r Byd baratoi ar gyfer y gêm gyntaf yn Ffrainc, mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi ymuno â rhai o'r artistiaid gorau, cynhyrchwyr bwyd a diod a hyrwyddwyr diwylliannol o Gymru i ddangos yr hyn sydd ar gael gan Gymru oddi ar y cae. Fel rhan o'r cynlluniau hyn, bydd y lleoliad cerddoriaeth enwog Clwb Ifor Bach yn meddiannu Stereolux ar ôl gêm Cymru yn erbyn Georgia ar 7 Hydref.