English icon English

Newyddion

Canfuwyd 99 eitem, yn dangos tudalen 6 o 9

Welsh Government

Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru – canllaw newydd i greu perthynas fwy deallus â’n hanes

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad heddiw ar ganllaw newydd fydd yn helpu cyrff cyhoeddus i gyflwyno’r Gymru gyfoes yn well trwy goffadwriaethau cyhoeddus.

Ty Pawb-4

Cyhoeddi arian ar gyfer prosiectau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi £4.5m dros y tair blynedd nesaf i gynnal amcanion a gweithgareddau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru.

FAW-Senior Mens-World Cup Qualification-2

"Pob lwc Cymru" yng Nghwpan y Byd

"Rydych yn grŵp arbennig o chwaraewyr a hyfforddwyr gyda criw angerddol o gefnogwyr y tu ôl i chi.  Pob lwc Cymru!"

Money-4

Cyhoeddi hwb ariannol i ffilm Gymraeg yn nathliad 40 mlynedd ers sefydlu S4C

Heno, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £180,000 ar gael i gefnogi datblygiad ffilmiau yn y Gymraeg ac i ddarparu cefnogaeth ariannol i ddatblygu doniau a syniadau.

Y Gaer -2

MAE GAN ŴYL AMGUEDDFEYDD CYMRU GYNLLUNIAU MAWR AR GYFER HANNER TYMOR

Yr wythnos hon mae amgueddfeydd ledled Cymru yn cynnig hanner tymor a fydd yn eich ysbrydoli, wrth i ail wythnos Gŵyl Amgueddfeydd Cymru ddechrau.

Welsh Government

Cynllun newydd i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol yng Nghymru

  • Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol newydd ar gyfer 2022–2025 i helpu i ddatblygu gweithlu’r dyfodol ac uwchsgilio’r dalent bresennol
  • Cefnogir y cynllun gan gronfa newydd gwerth £1 miliwn ar gyfer y sectorau creadigol yng Nghymru
  • Mae diwydiannau creadigol yng Nghymru yn cyflogi 35,400 o bobl mewn 3,423 o fusnesau, gan greu £1.7 biliwn ar gyfer economi Cymru.
merthyr library-2

Y Dirprwy Weinidog yn ymuno â phlant mewn sesiwn ysgrifennu creadigol fel rhan o weithgareddau'r haf

Cafodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon y cyfle i ymuno â gweithgareddau Sialens Ddarllen yr Haf a Haf o Hwyl yn Llyfrgell Merthyr yr wythnos hon.

Wales Red Wall Football Fans Together Stronger Poster 2

100 diwrnod i fynd: Cronfa £1.5m yn agor i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd

Wrth i ni ddechrau cyfri y 100 diwrnod i lawr tan gêm gyntaf Cwpan y Byd Cymru mewn 64 o flynyddoedd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio cronfa gwerth £1.5 miliwn i hyrwyddo a dathlu Cymru.

Angharad Jenkins image-2

Mae Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru wedi bod yn llinell fywyd i'r sector, yn ôl adroddiad newydd

  • Dywedodd 94% o sefydliadau diwylliannol Cymru a holwyd fod y Gronfa Adferiad Diwylliannol, gwerth £108 miliwn, wedi chwarae rhan yn eu gallu i oroesi
  • Helpodd y Gronfa i ddiogelu 2,700 o swyddi
  • Chwaraeodd Cronfa Gweithwyr Llawrydd gyntaf y DU rôl hanfodol wrth gefnogi gweithwyr llawrydd i barhau i weithio yn eu sector.
Esports Unsplash Picture by Florian Olivo

Cymru yn y Gemau: Tîm E-chwaraeon cyntaf erioed Cymru yn mynd i Bencampwriaeth E-chwaraeon y Gymanwlad, gyda chymorth Cymru Greadigol

Bydd y tîm e-chwaraeon cyntaf erioed o Gymru yn mynd i Bencampwriaeth E-chwaraeon Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham i gystadlu yn y prif ddigwyddiad cychwynnol mawreddog, diolch i gymorth gan asiantaeth Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru.

Welsh Glad Baner Cymru Y Ddraig Goch

Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad: Gweinidogion yn anfon neges Pob Lwc i Dîm Cymru!

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden wedi anfon neges pob lwc i Dîm Cymru cyn dechrau Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham.

Summer reading cym

Ymunwch â'r Teclynwyr ar gyfer her ddarllen yr haf

Y penwythnos hwn (9 Gorffennaf) bydd Her Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio yng Nghymru - menter boblogaidd iawn i gadw plant i ddarllen dros wyliau'r haf.