2.8% o gynnydd yng nghyflog meddygon a deintyddion Cymru
2.8% pay increase for doctors and dentists in Wales
Heddiw (dydd Mawrth, 21 Gorffennaf), mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi 2.8% o gynnydd yng nghyflog meddygon a deintyddion Cymru.
Mae’r cynnydd yn cyd-fynd ag argymhellion 48fed Adroddiad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion a osodwyd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig heddiw.
Dywedodd Mr Gething: “Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddaf yn derbyn argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion yn llawn.
Mae hyn yn cynnwys 2.8% o gynnydd yng nghyflog sylfaenol pob grŵp o feddygon a deintyddion. Mae’r cynnydd hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’n meddygon a’n deintyddion diwyd, a’u cyfraniad at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu’r GIG, sydd unwaith eto wedi dangos ei ymroddiad diwyro drwy ddarparu gofal iechyd rhagorol mewn amgylchiadau eithriadol o anodd yn ddiweddar.”
Bydd pob grŵp o feddygon a deintyddion yn cael y 2.8% o gynnydd, gan gynnwys ymgynghorwyr, meddygon dan hyfforddiant, meddygon arbenigol ac arbenigol cyswllt, ymarferwyr cyffredinol sy'n derbyn cyflog a deintyddion.
Mae’r cynnydd yng nghyflog ymarferwyr cyffredinol a deintyddion dan gontract yn rhan o newidiadau contract cyffredinol a bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r cyrff cynrychiadol.
Ychwanegodd Mr Gething: “Nid yw Trysorlys y DU wedi darparu cyllid ychwanegol i helpu i dalu am gost unrhyw gynnydd dros 1% a argymhellir ac felly bydd angen i’r cyllid ychwanegol ddod o gyllidebau presennol.”