Newyddion
Canfuwyd 4059 eitem, yn dangos tudalen 1 o 339
Cymru’n troi’r pedalau tuag at Grand Départ y Tour de France
- Bydd buddsoddiad o £4.5 miliwn yn helpu i roi hwb i dwristiaeth feicio ledled Cymru cyn Grand Départ y Tour de France yn 2027, gan ddenu mwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chreu etifeddiaeth barhaol i feicio
- Mae 54 o brosiectau wedi cael cyfran o £3.19 miliwn i wella cyfleusterau a seilwaith beicio, gan gynnwys hybiau beicio, cynlluniau llogi beiciau, llwybrau a mannau gwefru ar gyfer e-feiciau
- Bydd Cronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod gwerth £1.3 miliwn yn helpu busnesau a sefydliadau cymunedol i fod yn fwy croesawgar i feicwyr a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mwy o ymwelwyr
Gofyn am farn ar ddyfodol llaeth ysgol am ddim yng Nghymru
- Mae ymgynghoriad 10 wythnos ar ddarpariaeth llaeth i ysgolion yng Nghymru wedi’i lansio.
- Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch a ddylid sefydlu Cynllun Llaeth Ysgol Cymru, neu a ddylid dod â’r ddarpariaeth o laeth ysgol am ddim i ben.
- Waeth beth yw canlyniad yr ymgynghoriad, bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd trwy glybiau brecwast ac amser cinio trwy’r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Cynradd.
Miloedd o bunnoedd o waith wedi'u dadwneud mewn oriau: Cadw yn galw am weithredu ar droseddau treftadaeth yr hanner tymor hwn
Mae pobl yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol a rhoi gwybod am fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treftadaeth ar safleoedd hanesyddol Cymru yr hanner tymor hwn ar ôl i werth miloedd o bunnoedd o ddifrod gael ei achosi ar safle sydd newydd ei adnewyddu yng ngorllewin Cymru.
Lansio gwasanaeth coetsys newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin
- Coetsys TaithCymru yn lansio ddydd Sul 25 Hydref
- Bydd 10 gwasanaeth dyddiol yn cysylltu Bangor a Chaerfyrddin – gydag estyniad hwyr y nos yn cysylltu Bangor â chysylltiadau rheilffordd a fferi Caergybi
- Mae'r coetsys newydd sbon yn cynnwys Wi-Fi, seddi mynd yn ôl, aerdymheru, mannau i storio beiciau a chyfleusterau toiledau
Ymgynghori ar bolisi o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf, ar gyfer llinellau trydan newydd
- Ymgynghoriad wedi'i lansio ar bolisi cynllunio newydd ar gyfer dull o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf yn achos llinellau trydan 11-132kV newydd.
- Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar y defnydd o beilonau delltog dur mawr ar gyfer llinellau trydan datganoledig.
- Mae angen cynllunio seilwaith yn sensitif er mwyn lleihau effeithiau ar yr amgylchedd a chymunedau.
Labordy newydd yn sicrhau y bydd babanod yng Nghymru yn cael eu sgrinio am fwy o gyflyrau
- Labordy gwerth £1.21 miliwn yn Ysbyty Athrofaol Cymru i ehangu’r gwasanaeth sgrinio newydd-anedig yng Nghymru.
- Cyllid ychwanegol gwerth £529,000 i ychwanegu Tyrosinemia Etifeddol Math 1 at y 9 cyflwr sydd eisoes yn cael eu sgrinio ar eu cyfer.
- Bydd y buddsoddiad yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa i ystyried cymryd rhan yn y gwerthusiad ar gyfer sgrinio am atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn (SMA) a diffyg imiwnedd cyfun difrifol (SCID), ac unrhyw sgrinio cenedlaethol posibl yn y dyfodol.
Cyfarfod cyntaf y panel arbenigol sy'n cynghori ar asiantaeth datblygu economaidd newydd
- Y panel cynghori ar asiantaeth datblygu economaidd newydd yn cwrdd am y tro cyntaf.
- Disgwylir i'r panel ddod ynghyd dros gyfnod o tua chwe mis cyn cynhyrchu ei adroddiad terfynol a'i argymhellion.
- Gofynnir i fusnesau yng Nghymru a rhanddeiliaid allweddol eraill gyfrannu at ddyluniad yr asiantaeth.
Cymru i groesawu Tour de France hanesyddol yn ystod ein Blwyddyn Seiclo
- Datgelu rhagor o fanylion am y Grand Départ yng Nghymru
- Cadarnhau cymal gwib yn Llandrindod
- 2027 fydd Blwyddyn Beicio Croeso Cymru
Ymateb y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ddata diweddaraf y GIG o ran Perfformiad a Gweithgarwch: Awst a Medi 2026
Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymateb i ddata diweddaraf GIG Cymru o ran perfformiad a gweithgarwch.
Dysgu o'r haf a chydweithredu yn allweddol i atal tanau gwyllt yn y dyfodol, meddai’r Prif Weinidog cyn Uwchgynhadledd
Bydd y Prif Weinidog yn cynnull Uwchgynhadledd Newid yn yr Hinsawdd a Gwydnwch Cymru fore heddiw [22 Hydref], gan ddod â phartneriaid allweddol ynghyd i ddatblygu camau gweithredu ar gyfer y dyfodol yn sgil y tanau gwyllt a welwyd yng Nghymru dros yr haf.
Oedi cyn ailbrisio’r dreth gyngor o ganlyniad i’r pwysau ar y gyllideb
- Deddfwriaeth i gael ei chyflwyno i ohirio ymarfer ailbrisio’r dreth gyngor tan dymor y Senedd nesaf
- Ffyrdd sydd wedi’u targedu’n fwy pwrpasol o wella’r system i gael eu hystyried
- Y penderfyniad yn dilyn gwaith manwl dros yr haf i asesu’r gost o gefnogi rhai aelwydydd drwy’r cyfnod pontio
Cymru a'r Alban: rhaid sgrapio polisïau didostur ar fudd-daliadau, a lleihau biliau
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ysgrifennu at weinidogion y DU cyn y Gyllideb