Newyddion
Canfuwyd 3186 eitem, yn dangos tudalen 2 o 266

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r camau nesaf i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cam nesaf ei hymrwymiad i fynd i'r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau (AMR) mewn anifeiliaid yng Nghymru, fydd yn golygu £2 miliwn o arian newydd a sefydlu grŵp cynghori newydd o arbenigwyr.

Cyfleuster i roi bywyd newydd i hen deiars gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru
Mae un o brif ddarparwyr gwasanaethau teiars Cymru ar fin agor cyfleuster newydd a fydd yn rhoi bywyd newydd i hen deiars, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Cyfraith nodedig yng Nghymru i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal
Heddiw, cafodd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth o dan embargo: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) i gael y Cydsyniad Brenhinol
Yn ddiweddarach heddiw, mae disgwyl i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gael y Cydsyniad Brenhinol.

50 mlynedd o bartneriaeth arloesi sy'n torri tir newydd
Mae un o fentrau mwyaf hirhoedlog y DU sy'n cysylltu busnesau a sefydliadau â'r byd academaidd yn dathlu 50 mlynedd o ddarparu gwerth i economi Cymru.

Ysgrifennydd Cabinet yn ymweld â chanolfan fusnes o'r radd flaenaf
Arferai adeilad eiconig yr Automobile Palace fod yn gartref i weithdai ac ystafelloedd arddangos ceir ond erbyn hyn, mae wedi cael ei weddnewid yn ganolfan fusnes o'r radd flaenaf.

Cynnal “digwyddiad busnes mwyaf Cymru erioed” ym mis Rhagfyr
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi manylion yr uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol fawr sy'n cael ei chynnal yng Nghymru yn nes ymlaen eleni.

Prentisiaid yr Urdd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn y Gymraeg
Mae prentisiaid o'r Urdd yn helpu i ysbrydoli disgyblion mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg i ddefnyddio mwy o Gymraeg drwy glwb chwaraeon wythnosol.

Y lefel uchaf erioed o gyllid ar gyfer gwaith diogelwch mewn mwy na 130 o safleoedd tomenni glo ledled Cymru
Mae bron i £34m o fuddsoddiad i gyflawni gwaith diogelwch mewn mwy na 130 o safleoedd tomenni glo ledled Cymru yn cynrychioli'r rhaglen ddiogelwch fwyaf hyd yma.

£90m mewn benthyciadau llog isel i hybu tai fforddiadwy a gwella cartrefi presennol
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £90m ar gael mewn benthyciadau llog isel i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu mwy o gartrefi i bobl ledled Cymru.

Pecyn buddsoddi gwerth £789m i Lywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo gan y Senedd
Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 wedi'i chymeradwyo heddiw gan y Senedd.