Newyddion
Canfuwyd 38 eitem, yn dangos tudalen 1 o 4

Busnes serol newydd o Gymru yn barod i lansio'r chwyldro diwydiannol nesaf yn y gofod
Mae busnes serol newydd o Gymru yn barod i gychwyn y chwyldro diwydiannol nesaf yn y gofod.

Prosiect ynni llanw mawr yn y Gogledd yn ehangu i gefnogi twf gwyrdd
Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r hyn fydd y prosiect ynni llanw mwyaf i gael cydsyniad yn Ewrop.

Cwmni'n creu swyddi newydd ar ôl prynu ffatri Llywodraeth Cymru
Bydd cwmni gweithgynhyrchu o Sir Gaerfyrddin yn creu 20 o swyddi newydd fel rhan o gynlluniau ehangu ar ôl prynu ffatri wag gan Lywodraeth Cymru.

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i allforion BBaChau dros £320m ers lansio'r Cynllun Gweithredu Allforio
Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi sicrhau cytundebau allforio gwerth dros £320m o ganlyniad uniongyrchol i gymorth Llywodraeth Cymru ers lansio'r Cynllun Gweithredu Allforio ym mis Rhagfyr 2020.

Buddsoddi mewn unedau busnes carbon isel yn Sir Gaerfyrddin
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi buddsoddi mewn darparu datblygiad masnachol cynaliadwy gwerth £12m fel rhan o ymrwymiad i dwf economaidd gwyrdd.

Cwmni logisteg yn torri allyriadau carbon gyda meddalwedd arloesol
Mae cwmni logisteg arobryn wedi datblygu offeryn rheoli allyriadau arloesol sydd wedi arbed digon o allyriadau carbon i HGV deithio o gwmpas y byd 120 o weithiau, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Cwmni peirianneg rhyngwladol yw'r cyntaf i gytuno ar les ar safle diwydiannol ‘Gradd A’ Llywodraeth Cymru
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans mai cwmni peirianneg rhyngwladol yw'r cwmni cyntaf i arwyddo les yn Rhyd y Blew, safle diwydiannol ‘Gradd A’ Llywodraeth Cymru ym Mlaenau Gwent.

Blwyddyn Newydd... Gyrfa Newydd?
Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant, â chanolfan gyrfaoedd Cymru'n Gweithio i gwrdd ag unigolion sydd wedi newid gyrfa’n llwyr yn eu 40au a'u 50au gyda chefnogaeth adolygiad gyrfa Cymru'n Gweithio.

Prosiectau ynni lleol mwy clyfar a gwyrdd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau 2025 drwy ddyfarnu hyd at £10 miliwn o gyllid grant i 32 o brosiectau ynni gwyrdd cymunedol ym mhob cwr o Gymru.

Arloeswyr Hydrogen Gwyrdd Byd-eang yn gwneud Doc Penfro yn bencadlys newydd
Mae Haush Ltd yn bwriadu bod y cyntaf o'i fath i gynnig hydrogen gwyrdd i ddatgarboneiddio tir, môr a thrafnidiaeth awyr yn ogystal ag allforion tanwydd i Ewrop.

Arddangos diwydiant gwyddorau bywyd ffyniannus mewn ffair fasnach fyd-eang
Bydd diwydiant gwyddorau bywyd ffyniannus Cymru yn cael ei ddathlu a'i hyrwyddo yn un o'r ffeiriau masnach busnes-i-fusnes mwyaf yn y byd yn ystod Wythnos Masnach Ryngwladol.

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn helpu cwmni dur i ehangu gweithrediadau
Mae busnes sydd ag enw da am ddarparu cynhyrchion dur o safon uchel yn ehangu ei weithrediadau ac yn ehangu ei bencadlys gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.