Newyddion
Canfuwyd 44 eitem, yn dangos tudalen 3 o 4

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld 'dyfodol disglair' i'r rheilffyrdd yng Nghymru yn dilyn cyfarfod rhynglywodraethol allweddol.
Mae Gweinidogion yng Nghymru a San Steffan wedi cytuno i 'weithio mewn partneriaeth' i ddiwygio'r rheilffyrdd, gwella seilwaith, a darparu gwell gwasanaethau i deithwyr.

"Mae gen i lais nawr hefyd" - Pobl ifanc yn dathlu llwyddiant wrth i raglen gyflogaeth gynnig mwy na gwaith iddyn nhw
Gwell siawns o gael swyddi, mwy o foddhad â bywyd a help i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl yw rhai o'r manteision y mae dysgwyr ifanc wedi'u profi ers ymuno â Twf Swyddi Cymru+.

Cyfle teg i bawb siarad Cymraeg
Bil newydd y Gymraeg ac Addysg i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Sicrhau Dyfodol Gwyrdd Cymru – Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio
Lansiodd yr Ysgrifennydd dros yr Economi, Jeremy Miles, ddatblygwr ynni adnewyddadwy Cymru heddiw, sefydliad cyhoeddus o'r enw Trydan Gwyrdd Cymru.

Tafwyl yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg
Bydd miloedd o ymwelwyr yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd y penwythnos hwn i ddathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg.

Cyhoeddi gradd-brentisiaethau newydd i helpu i adeiladu Cymru'r dyfodol
Prifysgolion a diwydiant yn croesawu lansio rhaglenni o hyd at bedair blynedd a ariennir yn llawn.

'Adeiladu’n allweddol i greu Cymru gynaliadwy' – Jeremy Miles
Bydd angen 11,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol ar Gymru i gefnogi economi sy'n tyfu, meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg mewn Uwchgynhadledd Adeiladu yng Nghyffordd Llandudno.

ChatGPT yn dysgu Cymraeg
Partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac OpenAI i wella ChatGPT yn Gymraeg.

Unrhyw beth yn bosibl i fenywod mewn peirianneg yng Nghymru
Agorwyd llygaid Grace Lewis gan NASA, cafodd ei chefnogi gan Brifysgol De Cymru ac mae bellach yn brif beiriannydd yn Aston Martin.

Cymru i arwain y chwyldro ynni gwyrdd gyda buddsoddiadau a mentrau uchelgeisiol
Dim amheuaeth ynghylch arbenigedd ac uchelgais Cymru yng nghynhadledd fyd-eang gwynt ar y môr.