English icon English

Parth Buddsoddi Gogledd Ddwyrain Cymru gwerth £1bn yn gwneud cynnydd sylweddol

£1bn North East Wales Investment Zone makes significant progress

Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar Barth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint, wrth i'r busnes FI Real Estate Management (FIREM) fuddsoddi mewn twf.

Prosiect cydweithredol yw'r Parth Buddsoddi, y disgwylir iddo ddenu buddsoddiad o £1bn gan y sector preifat a chreu 6000 o swyddi newydd.

Mae'n cael ei gefnogi gan £160m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar weithgynhyrchu uwch, gyda'r Parth Buddsoddi yn targedu capasiti newydd o 5.5 miliwn troedfedd sgwâr ar gyfer y sector.

Bydd pwyslais arbennig ar sgiliau arloesi a heriau trafnidiaeth, darparu cyfleoedd a buddsoddiad newydd i gymunedau a thyfu economïau lleol a rhanbarthol.

Yn ddiweddar, datblygwyd cynlluniau ar gyfer y Parth Buddsoddi ymhellach gyda chadarnhad yng nghyhoeddiad diweddar y Canghellor Rachel Reeves o'i ffocws ar ddiwydiant, a'i brif safleoedd.   

Un o'r safleoedd hyn yw Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, sy'n gartref i ystod eang o fusnesau a chyflogwyr mawr, fel JCB.

Mae tri o ddatblygiadau FIREM ar y stad - Wrecsam 1M, Wrecsam 152 a Chanolfan Bridgeway – o fewn y parth dynodedig.

Mae'r cwmni'n ehangu ei bresenoldeb ar yr ystad yn sylweddol fel rhan o'i brosiect Wrecsam 1M, sy'n cynnwys miliwn troedfedd sgwâr o ofod logisteg, a fydd yn creu 1,000 o swyddi ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer twf yn y rhanbarth. Mae FIREM wedi buddsoddi mwy na £136m yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.

Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, yn ymweld â safle Wrecsam 1M i glywed mwy am uchelgeisiau FIREM ac i weld drosti hi ei hun sut y bydd y Parth Buddsoddi yn adeiladu ar alluoedd busnesau enwog o'r radd flaenaf yn y rhanbarth.

Dywedodd:

"Mae Gogledd Ddwyrain Cymru eisoes yn gartref i dalent ac arbenigedd anhygoel. Ochr yn ochr â'r arloesedd diweddaraf a chymorth y Llywodraeth, credwn fod y cyfleoedd yn ddi-ben-draw i'r rhanbarth o ran sicrhau twf economaidd a swyddi o ansawdd da yn y dyfodol.

"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i weithgynhyrchu uwch yng Ngogledd Cymru ac rwy'n cael fy nghalonogi gan gynnydd Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint ac ymdrechion cydweithredol y Cyd-bwyllgor Corfforedig, awdurdodau lleol, y ddwy lywodraeth ac wrth gwrs busnesau, i gyrraedd y cam pwysig hwn.

"Mae cynllun Wrecsam 1M gan FIREM yn cael ei gynnig i fod yn safle treth newydd a'r nod yw creu safle diwydiannol o ansawdd uchel a fydd yn helpu i sbarduno'r broses creu swyddi ac ychwanegu gwerth economaidd enfawr yn Wrecsam. Mae'n bleidlais arall o hyder yn yr hyn yr ydym i gyd yn ceisio ei gyflawni yma."

Ychwanegodd Tim Knowles, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd FI Real Estate Management:

"Fel datblygwr sydd wedi bod â gweithrediadau yn Wrecsam ers bron i 20 mlynedd, rydym yn falch o chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drawsnewid Wrecsam yn ganolfan ffyniannus ar gyfer gweithgynhyrchu uwch yn y DU. 

"Mae gennym gred enfawr ym mhotensial y ddinas a'r rhanbarth, a gwyddom y bydd y genhadaeth uchelgeisiol hon a chreu'r Parth Buddsoddi gwerth £160m yn galluogi busnesau i ffynnu, sectorau twf i ffynnu, a chymunedau cyfagos i elwa.  

"Bydd parhau i fuddsoddi yn ein datblygiadau blaenllaw yn Wrecsam yn arwain twf clwstwr gweithgynhyrchu uwch o bwys byd-eang ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru dros y degawd nesaf. Ni allwn aros i weld yr effaith gadarnhaol y bydd y Parth Buddsoddi yn ei chael ar Wrecsam, wrth i'r rhanbarth gystadlu ar lwyfan byd-eang ar gyfer arloesi." 

Cyn ei hymweliad ag Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, cynhaliodd Rebecca Evans ddigwyddiad ymgysylltu rhanbarthol gydag ystod eang o fusnesau a rhanddeiliaid allweddol yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam i helpu i lunio ffocws ar feysydd datblygu economaidd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru.