English icon English

Menter ar y cyd yn tyfu economi Cymru drwy arloesi sy'n mynd o nerth i nerth

Joint venture growing Welsh economy through innovation going from strength to strength

Mae partneriaeth unigryw sy'n helpu i dyfu economi Cymru drwy droi syniadau arloesol yn realiti gan ddefnyddio ymchwil o'r radd flaenaf yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Mae rhaglen Airbus Endeavr Wales, a ddathlodd 15 mlynedd o lwyddiant yn ddiweddar, yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Airbus Defence and Space, a Phrifysgol Caerdydd sy'n cynrychioli'r sector prifysgolion yng Nghymru.

Mae menter Endeavr, sy'n rhoi cyfle i brifysgolion a busnesau bach a chanolig (BBaCh) weithio gydag Airbus a datblygu atebion arloesol i broblemau cymhleth, wedi atynnu £1.6m o gyllid o ffynonellau eraill yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig – swm sy’n fwy na'r buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid.

Mae bellach wedi derbyn estyniad ariannol gan Lywodraeth Cymru ac Airbus Defence and Space ar sail 50-50.

Un BBaCh sy'n elwa o'r rhaglen yw busnes newydd seiberddiogelwch Nisien, sy'n deillio o Brifysgol Caerdydd ac sydd hefyd yn arwain Hyb Arloesedd Seiber Cymru – rhaglen a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru i ysgogi twf yn y sector seiberddiogelwch ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Nisien yn gweithio gydag Airbus ar ganfod gwybodaeth sydd wedi'i chynhyrchu gan ddefnyddio AI, i ganfod camwybodaeth bosibl yn gywir ar draws platfformau ar-lein mewn amser real. Mae Nisien wedi creu 14 o swyddi eleni.

Cyfarfu Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans â'r cwmni yn ddiweddar.

Dywedodd:

"Gwaith arloesol Nisien yw'r union fath o ddatrysiad arloesol oedd gennym mewn golwg pan lansiwyd ein strategaeth Cymru'n Arloesi.

"Mae'r rhaglen Endeavr yn gweithredu fel catalydd i annog arloesi blaengar o'r byd academaidd a'r gymuned BBaCh ledled Cymru gyfan, gan ymgorffori technoleg a gallu Airbus o fewn ecosystem fusnes Cymru.

"Efallai ein bod ni'n genedl fach, ond drwy alluogi cydweithio rhwng pobl, consortia a busnesau i weithio tuag at nodau a rennir,bydd gennym bresenoldeb mawr a gallwn wneud cyfraniad gwerthfawr i weledigaeth gyffredinol y DU o ran arloesi."

Dywedodd Lee Gainer, Prif Swyddog Gweithredol Nisien:

"Mae'r sector rydym yn rhan ohono yn hanfodol ar gyfer twf hirdymor economi Cymru. Mae cymorth Endeavr wedi bod yn allweddol wrth greu swyddi medrus iawn, ac mae wedi chwarae rhan ganolog wrth helpu ein busnes i ennill troedle a denu buddsoddiad ecwiti. Rydym yn edrych ymlaen at hyrwyddo ymchwil a datblygu arloesol i ganfod AI cynhyrchiol a'i drawsnewid yn gynnyrch masnachol llwyddiannus."

Dywedodd Stephanie Eden, Pennaeth Awdurdod Dylunio a Llywodraethu Technegol, ac aelod o Bwyllgor Gweithredol Airbus Endeaver:

"Mae Rhaglen Airbus Endeavr Wales yn cefnogi ein hymgysylltiad â busnesau bach a chanolig a'r byd academaidd ledled Cymru. Dros ei 15 mlynedd, mae Endeavr wedi helpu i wireddu llawer o syniadau arloesol, trwy ariannu ymchwil cynnar i gefnogi Airbus Defence and Space i gyflawni ei bortffolio technoleg. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd Endeavr yn cefnogi arloesedd yng Nghymru yn y dyfodol.”