Busnes serol newydd o Gymru yn barod i lansio'r chwyldro diwydiannol nesaf yn y gofod
Stellar Welsh start-up ready to launch next industrial revolution in space
Mae busnes serol newydd o Gymru yn barod i gychwyn y chwyldro diwydiannol nesaf yn y gofod.
Mae Space Forge yn rhoi'r cyffyrddiadau olaf i'w ail loeren cyn ei lansio yn ddiweddarach eleni.
Bydd y ForgeStar-1® yn dangos technoleg unigryw Space Forge mewn orbit i gynhyrchu deunyddiau cymhleth ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion sy'n anodd neu'n amhosibl eu cynhyrchu ar y Ddaear.
Mae Space Forge yn credu y gall technoleg gyflawni arbedion sylweddol mewn ynni a CO2 trwy leihau allyriadau mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel o seilwaith cenedlaethol critigol hyd at 75%.
Mae'r cwmni o Gaerdydd, sydd yn flaenorol wedi sicrhau £7.7m yn rownd cyllid sbarduno fwyaf erioed Ewrop ar gyfer cwmni technoleg gofod, hefyd yn bwriadu agor Canolfan Ymchwil Microddisgyrchiant, y cyntaf o'i bath, yn Ne Cymru.
Bydd y ganolfan o gymorth i Space Forge ehangu a darparu gallu cenedlaethol na cheir hyd iddo yn unman arall yn y byd – gan gyfuno mynediad at y gofod gydag arbenigedd mewn deunyddiau datblygedig.
Mae Llywodraeth Cymru, sydd wedi helpu Space Forge i ddatblygu’r cwmni i'r hyn yr ydyw heddiw trwy gyllid ymchwil a datblygu a chymorth arall, bellach yn cynorthwyo'r cwmni i ddod o hyd i ganolfan fwy yn Ne Cymru.
Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, â Space Forge i weld ForgeStar-1® yr wythnos hon.
Dywedodd:
"Mae darparu gweithgynhyrchu ac arloesi gwerth uchel yn rhan o wead diwydiant Cymru ac mae technoleg lled-ddargludyddion yn gyrru economi'r unfed ganrif ar hugain.
"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o feithrin diwydiannau'r dyfodol, gan gynnwys y sector gofod sy'n tyfu'n gyflym.
"Mae Space Forge yn stori lwyddiant go iawn am y gofod, yn darparu mwy na 60 o rolau technegol medrus iawn, ac yn cefnogi 1000 arall yn y gadwyn gyflenwi uniongyrchol, ac rydym yn falch iawn o fod yn eu cefnogi i wireddu eu huchelgeisiau enfawr.
"Roedd yn ddiddorol iawn gweld y gwaith yn mynd rhagddo yn Space Forge a hoffwn ddymuno pob lwc iddynt ar gyfer lansio ForgeStar-1."
Dywedodd Joshua Western, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Space Forge:
"Mae'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol yn ein taith, o gyllid Ymchwil a Datblygu i'n helpu i uwchraddio'n huchelgeisiau. Mae gorffen cam cyntaf y Ganolfan Ymchwil Microddisgyrchiant Genedlaethol a'n teithiau sydd ar y gweill yn gwneud 2025 yn flwyddyn o brofi bod gweithgynhyrchu yn y gofod yn economi newydd. Rydyn ni'n gyffrous am yr hyn sydd o'n blaenau ac yn ddiolchgar o gael Cymru wrth wraidd yr holl waith."