Cwmni'n creu swyddi newydd ar ôl prynu ffatri Llywodraeth Cymru
Company to create new jobs after purchase of Welsh Government factory
Bydd cwmni gweithgynhyrchu o Sir Gaerfyrddin yn creu 20 o swyddi newydd fel rhan o gynlluniau ehangu ar ôl prynu ffatri wag gan Lywodraeth Cymru.
Mae Morgan Marine yn bwriadu buddsoddi £1.25m i adnewyddu'r adeilad yn Ystad Ddiwydiannol Cilyrychen, ger Rhydaman, wrth i’r cwmni weithredu ar ei ddyhead i dyfu.
Bydd weldwyr medrus yn cynhyrchu cynhyrchion dur ffabrigedig o'r safle, a fydd hefyd yn gartref i gyfleuster hyfforddi ar y safle.
Ar hyn o bryd mae'r busnes yn cyflogi 211 o bobl, a bydd yn creu 20 o swyddi newydd dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Mae Morgan Marine yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth o safon ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu'r set sgiliau yn ei gymuned.
"Rwy'n falch iawn bod prynu ein huned fusnes yn golygu y gall y busnes barhau i dyfu ac ehangu ei weithlu medrus heb gefnu ar ei wreiddiau."
Mae Morgan Marine hefyd yn bwriadu datblygu ffynhonnell ynni adnewyddadwy ar y safle, o bosibl trwy osod paneli solar a thyrbinau gwynt.
Dywedodd Rhydian Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Morgan Marine:
"Mae Morgan Marine yn falch iawn o gaffael uned newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn atgyfnerthu ymhellach ein hymrwymiad i Landybïe a'r ardal gyfagos, wrth i ni geisio creu rhagor o swyddi medrus i bobl yn ein cymuned.
"Wrth i'r cwmni ddathlu'r garreg filltir arwyddocaol o 60 mlynedd mewn busnes yn 2025, bydd y datblygiad hwn yn nodi pennod newydd yn hanes y cwmni. Bydd yr uned yn ein galluogi i gyflawni ein dyheadau o ran tyfu, i barhau i gyfrannu'n sylweddol at yr economi leol, ac yn ein helpu i ddatblygu gwaith gweithgynhyrchu Cymru ar draws marchnadoedd y DU a'r Byd."