English icon English

Prosiect ynni llanw mawr yn y Gogledd yn ehangu i gefnogi twf gwyrdd

Major North Wales tidal energy project expands to support green growth

Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r hyn fydd y prosiect ynni llanw mwyaf i gael cydsyniad yn Ewrop.

Yn berchen i'r fenter gymdeithasol Menter Môn ac yn cael ei reoli ganddi, cynllun llanw Morlais yw'r cyntaf o'i fath yn y byd a bydd yn weithredol o 2026 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfran ecwiti gwerth £8m yn y prosiect i sicrhau cynnydd.

Mae gan safle Ynys Môn y potensial i gynhyrchu digon o ynni ar gyfer hyd at 180,000 o aelwydydd nodweddiadol yng Nghymru, gan gynnig model 'gosod a chwarae' unigryw ar gyfer datblygwyr dyfeisiau ynni llanw. Bydd hyn yn helpu i leihau costau wrth iddynt gynyddu gweithrediadau i gynhyrchu trydan glân.

Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu cam Cydnerth y prosiect, a fydd yn gweld y cysylltiad grid yn cael ei gryfhau ym Mharc Cybi, Caergybi.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

"Rydyn ni eisiau gwneud Cymru'n ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw sy'n dod i'r amlwg ac mae hwn yn gam cychwyn da mewn sawl ffordd.

"Bydd ein buddsoddiad yn cefnogi cynllun Morlais Menter Môn i gynyddu capasiti, a datblygu clwstwr diwydiannol ar gyfer ynni ac arloesedd llanw yn y Gogledd, gan ddarparu swyddi a thwf drwy ei dechnoleg arloesol ar yr un pryd. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod gwerth yn cael ei gadw’n lleol.

"Bydd hyn o fudd pellach i gyflenwyr ynni glân o bob maint ac yn gosod Cymru ar flaen y gad yn y trawsnewidiad ynni."

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:

"Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog, sy'n cryfhau ein gallu i ddarparu ynni glân a swyddi lleol drwy brosiect Morlais. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi ein gweledigaeth i sicrhau bod Gogledd Cymru ar flaen y gad ym maes arloesi ynni llanw, gan greu cyfleoedd ar gyfer twf a chydweithio ar draws y rhanbarth."

Ychwanegodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais Cyfyngedig:

"Mae'r cyllid hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ynni adnewyddadwy a'r rôl sylweddol y gall ynni llanw ei chwarae yn ein dyfodol ynni. Drwy gefnogi prosiectau fel Morlais, rydym nid yn unig yn datgloi potensial ein hadnoddau naturiol ond hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer economi wydn, werdd yng Ngogledd Cymru."