Cwmni logisteg yn torri allyriadau carbon gyda meddalwedd arloesol
Logistics company cutting carbon emissions with pioneering software
Mae cwmni logisteg arobryn wedi datblygu offeryn rheoli allyriadau arloesol sydd wedi arbed digon o allyriadau carbon i HGV deithio o gwmpas y byd 120 o weithiau, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Hyd yma mae'r feddalwedd ddiweddaraf, sydd wedi cael ei arloesi gan Freight Logistics Solutions (FLS), wedi torri 600,000kg o allyriadau carbon - cyfwerth â 3.3 miliwn milltir.
Derbyniodd cwmni FLS o Bont-y-pŵl, sy'n darparu gwasanaethau logisteg sy'n cael eu gyrru gan dechnoleg ledled y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, gyllid Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ei Reolwr Allyriadau pwrpasol.
Mae'r feddalwedd yn dileu milltiroedd gwag trwy gysylltu cwsmeriaid â rhwydwaith cerbydau FLS a nodi'r cludwr mwyaf effeithlon sy'n benodol i'w hanghenion. Mae hyn yn helpu i ddileu milltiroedd gwag trwy ddewis y cerbyd maint cywir sy'n dod agosaf at y man casglu.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Rydym yn credu y gall manteision arloesi, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wella bywydau pobl ledled Cymru, ein heconomi a'r amgylchedd naturiol yr ydym yn byw ynddo.
"Mae meddalwedd newydd FLS yn helpu i symud, rheoli a monitro'r broses o gludo nwyddau yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl, gan ddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau Sero Net."
Meddai Ieuan Rosser, Prif Weithredwr FLS:
“Mae’n technoleg aml-blatfform pwrpasol, FLS Freight Hub, yn ganolog i’n busnes. Mae’r platfform dibynadwy, cysylltiol a diogel hwn sy’n seiliedig ar y cwmwl, y gellir ei ehangu’n gyflym, yn gweithredu fel calon FLS, gan gysylltu rhwydwaith unigryw o 15,000 o gludwyr ac anfonwyr nwyddau yn ddi-dor. Mae cynaliadwyedd yn hanfodol bwysig, yn enwedig i fusnesau sy’n ymwneud â chludo llwythi, sy’n cynnwys y cyfrifoldeb ychwanegol o fesur data am allyriadau a dylanwadu arnynt.
“Wrth ddangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a galluogi’n cwsmeriaid ar eu taith at sero net, rydym wedi cyflwyno platfform modiwlar sy’n canolbwyntio ar allyriadau sydd wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae Rheolwr Allyriadau FLS yn darparu data wedi’i achredu gan GLEC ar gyfer pob symudiad cludo llwythi, ac yn golygu y gellir tracio a rheoli allyriadau carbon yn fanwl, gan gynnig mewnwelediad ar gyfer gwneud penderfyniadau er lles yr amgylchedd.”