Ymateb Llywodraeth Cymru i Ystadegau'r Farchnad Lafur diweddaraf - Ionawr 2026
Welsh Government response to latest Labour Market Statistics - January 2026
Dywed Llywodraeth Cymru:
“Mae tystiolaeth o amryw o ffynonellau’n awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn tueddiadau tebyg i’r DU ers y pandemig. Dengys y ffigurau diweddaraf o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) fod y gyfradd ddiweithdra i bobl 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 4.5%, o’i chymharu â chyfradd y DU o 4.2%.
“Rydym wedi cefnogi tua 46,000 o swyddi yn ystod y tymor Senedd hwn drwy gymorth i fusnesau – wrth i ni adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach. Rydym hefyd yn cynnig amryw o raglenni i helpu pobl i ddod o hyd i waith. Ers 2022, mae Communities for Work+ wedi cefnogi tua 19,900 o bobl i mewn i waith, Jobs Growth Wales+ 18,000 a ReAct+ 6,200.
“Rydym yn dyfynnu’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol oherwydd pryderon ynghylch dibynadwyedd data’r Arolwg Llafur. Mewn gwirionedd, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ei hun yn argymell gofal wrth gymryd ystadegau hyn fel yr unig fesur o’r farchnad lafur yng Nghymru. Er mwyn cael cywirdeb gwell, argymhellir defnyddio ystod o ffynonellau, tra bo’r ONS yn datblygu arolwg newydd.”