English icon English

Gwerthu tir ym Mhowys ar gyfer profi offer milwrol newydd

Powys land sale for testing new military equipment

Mae cwmni o'r sector amddiffyn wedi prynu tir Llywodraeth Cymru ym Mhowys i ddatblygu a phrofi offer milwrol newydd ar gyfer cleientiaid amddiffyn.

Mae BANAIR wedi prynu dau lain ym Mharc Menter Glannau Gwy, yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, ac wedi dechrau profi ei system bontio cerbydau alwminiwm ysgafn ei hun ar y safle.

Yn rhychwantu hyd at 30 metr, mae'r offer yn cael ei ddatblygu i alluogi gweithrediadau milwrol i groesi dŵr neu fylchau dros dir sych, ac mae BANAIR yn datblygu'r gallu hwn gyda chyllid grant cymorth arloesi uniongyrchol.   

Mae BANAIR - y mae ei bencadlys yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ac sy'n gweithredu o sawl safle, gan gynnwys cyfleusterau gweithgynhyrchu yn Dudley a Gwlad Pwyl, a swyddfeydd gwerthu yn UDA a Japan - hefyd yn awyddus i sefydlu ffatri newydd gerllaw Bydd hyn yn creu swyddi diwydiannol medrus ar gyfer rhanbarth Powys.

Mae BANAIR yn disgwyl creu tua 20 o swyddi ar gyfer cynhyrchu ei systemau pontio a'i fframiau dur ysgafn dros y pum mlynedd nesaf a hyd at 10 swydd ym maes ymchwil a datblygu ar gyfer ei gynhyrchion amddiffyn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod mwy o adeiladau masnachol ar gael i fusnesau ym mhob rhan o Gymru.

"Roedd angen gofod ychwanegol ar BANAIR i ddatblygu ac arddangos atebion milwrol newydd, ac roeddem yn gallu cynorthwyo'r cwmni o fewn amserlen dynn i helpu i gyflawni ei rwymedigaethau contract a chyflawni ei uchelgeisiau ehangu.

"Mae sicrhau swyddi gweithgynhyrchu medrus i'r rhanbarth at y dyfodol yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy ffyniannus i bawb."

Dywedodd Andrew Gunn, Prif Swyddog Gweithredol BANAIR:

"Rydym yn falch iawn o fod wedi caffael y safle pwysig hwn ym Mhowys i'n galluogi i ddatblygu, profi ac arddangos ein datrysiadau pontio milwrol. Bydd y maes profi a'r safle gweithgynhyrchu newydd hwn yn caniatáu i BANAIR ddatblygu ein portffolio o gynhyrchion amddiffyn, ac rydym wir yn gwerthfawrogi'r cymorth blaengar a buddiol yr ydym wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y broses."