Ysgolion cynradd Casnewydd yn elwa ar gyllid Great British Energy

Newport primary schools benefit from Great British Energy funding

Mae dwy ysgol gynradd yng Nghasnewydd wedi derbyn paneli solar fel rhan o gyllid gwerth £9 miliwn ar gyfer datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus a lleihau biliau ynni.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Great British Energy, cwmni ynni cyhoeddus Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r cyllid yng Nghymru.

Mae Ysgol Gynradd Glan Llyn ac Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî wedi elwa ar gyllid o dan Raglen Ariannu Cymru.

Mae Ysgol Glan Llyn hefyd wedi derbyn cyllid gan gronfa Ynni Cymru Llywodraeth Cymru, ar gyfer storio batris, gan wneud y safle yn System Ynni Leol Glyfar weithredol. Mae'r systemau hyn yn helpu cymunedau i gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.

Disgwylir i Ysgol Parc Jiwbilî wneud arbedion carbon o tua deg tunnell o CO2e y flwyddyn. Rhagwelir y bydd Ysgol Glan Llyn yn lleihau ei hôl troed carbon tua 71 tunnell o CO2e y flwyddyn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Mae gennyn ni darged ynni glân i sicrhau sector cyhoeddus sero net erbyn 2030 a gwneud Cymru yn wyrddach, yn gryfach ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

"Bydd paneli solar ar y ddwy ysgol gynradd hyn yng Nghasnewydd yn lleihau costau a charbon, fel rhan o'n hymdrechion i drawsnewid ynni cymunedol yng Nghymru. 

"Mae'r cyllid gan Great British Energy, a gweithredu gan Llywodraeth Cymru, , yn dangos blaenoriaeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau'r manteision mwyaf posibl i gymunedau."

Dywedodd y Gweinidog Ynni, Michael Shanks:

“Mae Great British Energy yn helpu ysgolion yng Nghymru i leihau eu biliau ynni drwy bŵer solar glân, domestig – sy’n golygu bod mwy o arian ar gael i’w wario ar addysg plant.

“Dyma ein cenhadaeth ynni glân ar waith, yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus drwy filiau is i gymunedau yng Nghasnewydd ac ar draws y DU.”

Mae Rhaglen Ariannu Cymru, Llywodraeth Cymru yn cael ei gweinyddu gan Salix Finance.

Dywedodd rheolwr rhaglen Cymru ar gyfer Salix Finance, Gbenga Adenaike:

"Mae rhoi paneli solar ar doeau ysgolion yn un o'r buddsoddiadau craffaf y gellir eu gwneud.

"Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Great British Energy, yn ogystal â ni yn Salix, gall ysgolion dorri eu biliau ynni, lleihau allyriadau carbon ac ail-fuddsoddi arbedion yn uniongyrchol i ddisgyblion ac ystafelloedd dosbarth."

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Gwastraff ac Ailgylchu yng Nghyngor Dinas Casnewydd:

“Mae pob ceiniog yn cyfru i’n hysgolion, a bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iawn i’n hysgolion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

“Mae paneli solar ar doeau ysgolion nid yn unig yn cynhyrchu ynni glân ac yn lleihau costau rhedeg, ond maent hefyd yn helpu ein plant i ddysgu am gynaliadwyedd a gweithredu ar newid hinsawdd.

“Mae hyn yn ymwneud â’r dyfodol, ac mae’r dyfodol yn ymwneud â nhw.”