Ymateb Llywodraeth Cymru i Ystadegau'r Farchnad Lafur diweddaraf - Chwefror 2026
Welsh Government response to latest Labour Market Statistics – February 2026
Dywed Llywodraeth Cymru:
“Mae tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau’n awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn tueddiadau tebyg i’r DU ers y pandemig. Mae’r ffigurau diweddaraf o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra i bobl 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 4.5% o’i chymharu â chyfradd y DU o 4.2%.
“Rydym wedi cefnogi tua 46,000 o swyddi yn y tymor Seneddol hwn drwy gymorth busnes, ac yr wythnos diwethaf cafodd 20 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru—sy’n record—gefnogaeth gan Lywodraeth y DU, gyda’r potensial i greu miloedd o swyddi newydd pellach.
“Fel y dywedasom o’r blaen, rydym yn dyfynnu’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol oherwydd pryderon ynghylch dibynadwyedd data’r Arolwg Llafur. Mewn gwirionedd, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ei hun yn cynghori i fod yn ofalus wrth gymryd ystadegau hyn fel yr unig fesur o’r farchnad lafur yng Nghymru. Er mwyn cael llun mwy cywir, argymhellir defnyddio ystod ehangach o ffynonellau tra bod yr ONS yn datblygu arolwg newydd.”