English icon English

Ysgolion ac adeiladau cyhoeddus ledled Cymru i leihau biliau gyda cyllid Great British Energy

Schools and public buildings across Wales to cut bills with Great British Energy funding

Mae ysgolion ac adeiladau cyhoeddus ledled Cymru yn derbyn paneli solar fel rhan o gyllid o £9m i leihau biliau ynni a datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus. 

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Great British Energy, cwmni ynni cyhoeddus Llywodraeth y DU.  

Mae Llywodraeth y DU a Great British Energy wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a fydd yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r cyllid yng Nghymru. 

Bydd yr arian yn cefnogi prosiectau, gwerth hyd at £4m, i ddarparu paneli solar ar gyfer ysgolion ag adeiladau cyhoeddus drwy Raglen Ariannu Cymru. 

Mae'r rhain yn cynnwys yr isod, gyda fwy i ddod yn y dyfodol: 

  • Coleg Cambria, Wrecsam 
  • Ysgol Gyfun Porthcawl 
  • Ysgol Gynradd Glan Llyn, Casnewydd  
  • Ysgol Gynradd Jubilee Park, Casnewydd 

Bydd gweddill yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu cynllun newydd, Ymestyn, a fydd yn darparu cyllid llenwi bwlch ychwanegol i'r sector cyhoeddus a chymunedau i godi uchelgais eu gwaith datgarboneiddio. Er enghraifft, trwy ariannu prosiectau mwy cymhleth, uchelgeisiol fel canopïau solar a storio ynni batri integredig adnewyddadwy. 

Bydd rhagor o fanylion am Ymestyn ar gael pan fydd yn cael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Dywedodd Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: 

"Rydym yn gyrru tuag at sector cyhoeddus net sero erbyn 2030, a bydd y cyllid hwn yn ein helpu i nid dod yn agosach. Diolch i'r cyllid hwn, bydd sefydliadau ledled Cymru yn gweld eu biliau ynni'n gostwng mewn ychydig fisoedd. 

"Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau'r cynllun Ymestyn, a fydd yn gwireddu rhai prosiectau datgarboneiddio cyffrous wrth inni barhau i fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd." 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: 

"Bydd y prosiectau paneli solar ag ynni adnewyddadwy hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r sefydliadau hyn trwy ostwng eu biliau a gwneud eu seilwaith yn addas ar gyfer y dyfodol.  

"Mae’r cyllid Great British Energy hwn yn dangos blaenoriaethau cyffredin Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd ac sicrhau bod ein cymunedau’n elwa ar y trosiant i net sero. 

"Bydd y cyllid yn cefnogi ein dyhead cyffredin o ynni glân, diogel, o Gymru a bydd yn cydgrynhoi buddsoddiad presennol Llywodraeth Cymru mewn ynni lleol a chymunedol yng Nghymru." 

Dywedodd Gweinidog Ynni Llywodraeth y DU, Michael Shanks: 

"Mae Great British Energy yn grymuso cymunedau yng Nghymru i gymryd rhan yn eu hynni eu hunain.  

"Dyma ein cenhadaeth uwch-bŵer ynni glân ar waith – gwneud cymunedau yn gyfrifol am gynhyrchu ynni a sicrhau bod pobl sy'n gweithio a busnesau lleol yn elwa."