Manteision cynhyrchu niwclear modern i’w gwireddu i’r eithaf yng Nghymru

Benefits of modern nuclear generation to be maximised in Wales

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru’n barod  i fanteiso a’r bob cyfle sy’n deillio o gynhyrchu niwclear modern yn Wylfa yng Ngogledd Cymru.

Dyna’r neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, mewn araith i digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd gan y Gymdeithas Niwclear heddiw.

Tynnodd y digwyddiad sylw at flwyddyn hynod bwysig i’r diwydiant niwclear sifil yn y DU, ac fe’i cefnogwyd gan Fforwm Niwclear Cymru a’i noddi gan Rolls‑Royce SMR – sy’n dylunio’r tri adweithydd modiwlaidd bach (SMR) cyntaf yn y DU yn Wylfa.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae Llywodraeth Cymru a minnau wedi cefnogi niwclear newydd yn Wylfa ers blynyddoedd lawer – rydym yn ei hystyried yn brosiect seilwaith carbon isel o bwys ac yn gyfle diwydiannol hirdymor.

“Rydym am i Gymru elwa ar yr holl fanteision y gall niwclear modern eu cynnig, ac rydym yn bwriadu i Gymru nid yn unig gynnal cynhyrchu niwclear, ond hefyd helpu i’w adeiladu, ei gynnal a’i gyflenwi am ddegawdau i ddod.”

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn y digwyddiad heddiw fod Llywodraeth Cymru yn paratoi cynnig i Rolls‑Royce SMR ddatblygu cyfleuster gweithgynhyrchu modiwlaidd yn Nheeside, Sir y Fflint.

Ychwanegodd:

“Mae Deeside yn cael ei chydnabod fel clwstwr gweithgynhyrchu uwch gyda diwydiant trwm sefydledig, cysylltedd logisteg cadarn, gweithlu medrus a seilwaith ategol, sydd wedi’i gryfhau ymhellach gan ei ddynodiad o fewn parth buddsoddi gwerth £160 miliwn.

“Ni fyddai ffatri SMR yn Nheeside yn cefnogi un safle yn unig – byddai’n angori rhaglen adeiladu ailadroddadwy a chadwyn gyflenwi hirdymor am ddegawdau lawer i ddod.”