Newyddion
Canfuwyd 3186 eitem, yn dangos tudalen 9 o 266

Cylch cyflawn i gyn brentis sydd bellach yn Weinidog yn y llywodraeth
Cafodd y gweinidog sy'n gyfrifol am bolisi prentisiaethau Cymru gyfle yr wythnos hon i ddychwelyd i'r coleg lle bu ef ei hun yn astudio fel prentis, i ddathlu Wythnos Prentisiaethau a thynnu sylw at fanteision y llwybr hwn at gyflogaeth.

Hwb mawr i ymchwil iechyd menywod yng Nghymru
Bydd canolfan ymchwil iechyd menywod bwrpasol yn agor ym mis Ebrill gyda’r nod o ddarparu tystiolaeth hanfodol i wella gofal iechyd i fenywod yng Nghymru.

Llwyfan digidol newydd yn rhoi miwsig Gymraeg ar y map
Gall y rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth bellach ddod o hyd i bob gig Cymraeg sy'n digwydd ledled Cymru mewn un lle, diolch i blatfform ar-lein newydd arloesol: Awni.

Gwaith eisoes ar y gweill i drwsio tyllau wrth groesawu cyllid ychwanegol
Mae gwaith eisoes ar y gweill ledled Cymru i drwsio tyllau a diffygion eraill ar ein ffyrdd a bydd hyn yn cael hwb gyda £25m ychwanegol a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.

£28m i atgyweirio to ysbyty ac ailagor wardiau
Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, wedi cadarnhau bron i £28m ar gyfer atgyweirio’r to sydd wedi’i ddifrodi ac ailagor wardiau yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Bywyd newydd i leoliadau cymunedol ar draws Cymru
Mae dros 450 o leoliadau cymunedol ledled Cymru wedi cael eu hachub, eu gwella neu wedi cael eu creu o'r newydd gyda chymorth buddsoddiad gwerth £63m gan Lywodraeth Cymru - gan gadw lleoliadau hanfodol yn agored yn lleol wrth helpu cymunedau i greu canolfannau newydd lle gall pobl ddod at ei gilydd.

Zombies, dreigiau a hwb i'r economi – 5 mlynedd o Gymru Greadigol
Mae Cymru Greadigol, asiantaeth fewnol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a thyfu diwydiannau creadigol y genedl, yn dathlu ei phen-blwydd yn 5 oed ar ôl hanner degawd cyffrous ond heriol i'r sector.

£10m yn ychwanegol i ddarparu hyd yn oed mwy o dai fforddiadwy
Mae £10m ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddechrau datblygu cynlluniau tai fforddiadwy newydd ledled Cymru.

Wystrys brodorol Sir Benfro.
Pontŵn Iard Gychod Rudder yn Aberdaugleddau yw'r safle ar gyfer gwesty wystrys brodorol - sy'n ceisio gwrthdroi'r dirywiad yn nifer yr wystrys brodorol.

Dull newydd ar gyfer helpu teuluoedd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon
Roedd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden yn Belfast yr wythnos hon i ddysgu rhagor am ddull arloesol llwyddiannus sy'n helpu i leihau nifer y plant sy'n mynd i mewn i ofal, dull sydd bellach yn cael ei dreialu yng Nghymru.

Prosiect ynni llanw mawr yn y Gogledd yn ehangu i gefnogi twf gwyrdd
Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r hyn fydd y prosiect ynni llanw mwyaf i gael cydsyniad yn Ewrop.