Newyddion
Canfuwyd 23 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Hyfforddi meddygon teulu i adnabod endometriosis yn gynt
Mae meddygon teulu ledled Cymru yn cael eu hyfforddi i adnabod symptomau endometriosis yn gynt er mwyn helpu i wella’r ffordd y caiff menywod ddiagnosis o’r cyflwr a gwella’r gofal ar eu cyfer.

Technoleg glyfar i helpu pobl i aros yn eu cartrefi
Mae technoleg glyfar arloesol yn helpu i drawsnewid dewisiadau gofal i bobl hŷn – gan eu helpu i aros yn hirach yn eu cartrefi eu hunain.

Y gwaharddiad ar fêps untro yn dod i rym y penwythnos hwn
O ddydd Sul, 1 Mehefin, bydd fêps untro yn cael eu gwahardd ledled y DU gyfan i leihau'r niwed amgylcheddol a achosir wrth eu cynhyrchu ac yn sgil eu taflu.

Nwyddau mislif am ddim mewn mwy o fannau ledled Cymru
Mae nwyddau mislif am ddim bellach ar gael mewn mwy o fannau cyhoeddus ledled Cymru, diolch i’r gronfa Urddas Mislif gwerth £3.2m gan Lywodraeth Cymru.

Cefnogi clybiau pêl-droed Cymru i gyrraedd nodau iechyd meddwl
Bydd pob clwb pêl-droed yng Nghymru yn gallu cael mynediad at un o oddeutu 1,000 o leoedd hyfforddi ymwybyddiaeth iechyd meddwl fel rhan o ymgyrch i gefnogi clybiau yn well fel eu bod nhw’n gallu cefnogi eu timau, eu hyfforddwyr, eu chwaraewyr a'u cymuned ehangach.

Agor y drws ffrynt digidol i’r GIG yng Nghymru
Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i lawrlwytho Ap GIG Cymru er mwyn manteisio ar ystod eang o wasanaethau yn ddigidol.

Hwb dementia yn ennill statws aur ar ôl proses uwchraddio gwerth £140 mil
Mae Hwb Dementia Abertawe wedi cael ei gydnabod am ei amgylchedd eithriadol, sy'n ystyriol o ddementia, yn dilyn trawsnewidiad gwerth £140,000 wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Paratoi'r ffordd at gael cymorth yr un diwrnod ar gyfer iechyd meddwl
Bydd pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl yn gallu troi fwyfwy at wasanaethau yr un diwrnod, yn sgil cynllun uchelgeisiol i wella gofal ymhellach ledled Cymru.

Gweledigaeth newydd i leihau marwolaethau drwy hunanladdiad yng Nghymru a gwella'r gefnogaeth i bobl sy'n hunan-niweidio
Bydd ymgyrch newydd ac uchelgeisiol i greu dealltwriaeth fwy tosturiol o achosion hunanladdiad a hunan-niweidio, ac ymateb iddynt, yn helpu i achub bywydau.

Cymorth lles coleg yn allweddol i brofiad addysg y dysgwyr
Mae dysgwyr ledled Cymru yn elwa ar fwy o gymorth lles ac iechyd meddwl diolch i £4 miliwn o gyllid i golegau. Mae cyllid wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol i greu canolfannau lles neu wasanaethau cwnsela.

Strategaeth yn ceisio helpu pobl sy'n hunan-niweidio ac yn profi teimladau hunanladdol
Bydd annog pobl i ofyn am gymorth pan fyddant yn hunan-niweidio neu'n profi teimladau hunanladdol yn helpu i achub bywydau.

Y Gweinidog yn dweud bod gwasanaeth cefnogaeth gan gymheiriaid i bobl sy’n ymrafael ag anhwylderau bwyta yn ‘gam enfawr ymlaen’
Mae Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, wedi dweud bod gwasanaeth cefnogaeth gan gymheiriaid i bobl sydd ag anhwylderau bwyta yn gam enfawr ymlaen.