Sarah Murphy-13 cropped

Llinell gymorth a gwasanaeth triniaeth arbenigol ar gyfer niwed gamblo i'w lansio yng Nghymru

Gambling helpline and specialist treatment service to be launched in Wales

Bydd gwasanaeth triniaeth arbenigol a llinell gymorth newydd y GIG ar gyfer ymdrin â niwed gamblo yn cael eu lansio yng Nghymru o 1 Ebrill ymlaen.

Disgrifiwyd hyn gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, fel ‘carreg filltir’, a byddant yn darparu cymorth i ddegau o filoedd o bobl a allai fod yn wynebu risg o niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.

Bydd Llinell Gymorth Gamblo Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r rhai yr effeithir arnynt gan niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, gan gynnwys aelodau o’u teuluoedd ac eraill. Os oes angen, bydd y llinell gymorth hefyd yn atgyfeirio pobl at wasanaethau triniaeth.

Bydd triniaeth ar gyfer niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ar gael drwy blatfform ar-lein diogel, gan sicrhau bod cymorth yn gallu cael ei ddarparu o bell.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael cyllid gwerth £1.3m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth triniaeth a’r llinell gymorth. Daw’r cyllid o’r arian sydd wedi’i godi o ardoll gamblo y DU gyfan.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: “Mae hon yn garreg filltir sy’n nodi’r tro cyntaf i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ddarparu gwasanaethau triniaeth a gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer niwed gamblo.

“Bydd y llinell gymorth yn gymorth mynediad agored a fydd ar gael i bobl sydd ei angen fwyaf ac mae’n cyd-fynd ag uchelgeisiau ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.

“Wedi’i arwain gan y dystiolaeth, rydyn ni’n hyderus mai’r dull gweithredu hwn yw’r ffordd fwyaf effeithiol o roi cymorth hanfodol o safbwynt atal a thriniaeth.”

Dywedodd arweinydd clinigol gwasanaethau triniaeth ar gyfer niwed gamblo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Faye Graver: “Rydyn ni’n sefydlu gwasanaeth triniaeth arbenigol ar gyfer ymdrin â niwed gamblo a Llinell Gymorth Gamblo Cymru i roi cymorth mawr ei angen i bobl sy’n wynebu trafferthion o ran bod yn gaeth i gamblo.

“Byddan nhw’n rhoi’r cymorth, y cyngor a’r wybodaeth angenrheidiol, nid yn unig i bobl sy’n wynebu niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, ond hefyd i aelodau o’u teuluoedd ac eraill y mae gamblo yn effeithio arnyn nhw.

“Mae ymchwil yn dangos bod degau o filoedd o bobl yng Nghymru angen cymorth ar gyfer niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Bydd y gwasanaeth triniaeth hwn yn rhoi’r cymorth o’r cam atgyfeirio a brysbennu hyd at ôl-ofal.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes yn gweithredu sawl llinell gymorth genedlaethol, er enghraifft, llinell gymorth cyffuriau ac alcohol DAN 24/7 a llinell gymorth iechyd meddwl CALL. Mae’r rhain yn darparu seilwaith sydd wedi’i sefydlu yn Gymraeg a Saesneg er mwyn cynnal a chyflawni’r gwasanaethau newydd hyn.

Daeth ardoll y diwydiant gamblo i rym ym mis Ebrill 2025. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, mae oddeutu £120 miliwn wedi’i godi ar gyfer cynnal ymchwil, gweithgarwch atal a thriniaethau ym Mhrydain Fawr a hynny i geisio gostwng niweidiau sy’n gysylltiedig â gamblo.

Mae’r ardoll yn sicrhau bod mynd i’r afael â niwed gamblo yn cael ei ariannu’n gynaliadwy ac yn annibynnol ar y diwydiant gamblo.

Er mwyn hybu’r gwaith o weithredu’r ardoll yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y cydgysylltydd arweiniol ar gyfer gweithgarwch atal a Perfformiad a Gwella GIG Cymru fel y cydgysylltydd arweiniol ar gyfer triniaethau.

Ym mis Ebrill, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio cynllun grant a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag atal gamblo.

Yn rhan o’i waith i ehangu’r llwybr triniaeth ar gyfer niwed gamblo, bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd i nodi cyfleoedd i’r sector menter gymdeithasol gymunedol wirfoddol fod yn rhan ohono.

Nodiadau i olygyddion

Dr Faye Graver is available for interview about the launch of the helpline and specialist treatment service. Welsh-speaking interviews are available upon request

To arrange contact andrew.rogers2@wales.nhs.uk

  1. According to NICE (2025), an estimated 28,330 people in Wales are experiencing severe gambling harms and are already receiving some form of treatment or support.
  2. At the same time, evidence-based services must be in place for the 50,608 people NICE predicts are not currently accessing treatment, (NICE, 2025), ensuring unmet need is addressed through integrated pathways rather than siloed provision. This dual approach—continuity for existing users and expansion for those not engaged—will be critical to delivering a safe and equitable transition