Newyddion
Canfuwyd 43 eitem, yn dangos tudalen 1 o 4
Y Prif Weinidog yn cael cip y tu ôl i’r llen ar ganolfan orthopaedig newydd Gogledd Cymru
Heddiw, cafodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, gyfle i fynd o amgylch Canolfan Lawfeddygol newydd Gogledd Cymru yn Llandudno, cyn y caiff ei hagor ym mis Mai.
Codi'r bar dros ecoleg – geifr i wneud Gwaith Haearn Blaenafon yn gartref iddyn nhw
Mae'n debyg nad safle treftadaeth y byd sy'n llawn hanes eiconig yw'r lle cyntaf sy'n dod i'r meddwl fel cartref newydd i griw o famaliaid pedair coes, ond yn fuan dyna lle bydd 18 gafr yn byw.
Y coch gwreiddiol wedi'i ddarganfod yng Nghastell Coch ar ôl 135 mlynedd
Mae ymchwil i baent hanesyddol yn datgelu gwir liw castell 'coch' enwog Cymru.
Parc Iechyd Newydd Llantrisant i dorri amseroedd aros ar draws De-ddwyrain Cymru
Heddiw, bu'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles ar daith o amgylch safle Parc Iechyd newydd Llantrisant gwerth £120m. Bydd y parc yn cyflymu mynediad at brofion a thriniaeth i bobl ledled De-ddwyrain Cymru.
“Meddyginiaeth ydyw. Ond dyw e ddim yn dod mewn bocs” - sut mae presgripsiynu cymdeithasol yn newid bywydau ar draws Cymru
Bob bore dydd Sadwrn ers chwe blynedd, mae Richard Wheeler wedi rhoi ei esgidiau rhedeg a mynd i parkrun Aberbîg – ac mae'n brysur yn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn ymuno ag ef.
Cymorth ariannol ychwanegol i hosbisau
Bydd hosbisau ledled Cymru yn cael rhagor o gymorth ariannol yn sgil cytuno ar ganllawiau comisiynu cenedlaethol nodedig.
Sganwyr ac offer pelydr-X newydd i gyflymu’r broses o roi diagnosis i bobl ledled Cymru
Bydd cleifion ym mhob cwr o Gymru yn elwa ar gael diagnosis sy’n fwy cywir, a hynny yn gyflymach, wrth i naw ysbyty dderbyn offer sganio a phelydr-X newydd.
Safonau newydd yn disgrifio’r hyn y mae gofal iechyd meddwl da yng Nghymru yn ei olygu
Bydd pobl yng Nghymru yn elwa ar safonau cliriach ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a hunan-niweidio ar draws y GIG a’r sector gofal cymdeithasol.
Hybiau iechyd menywod ar gael ym mhob rhan o Gymru
Mae hyb iechyd menywod bellach ar agor ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, gan gynnig gwasanaethau menopos, atal cenhedlu ac iechyd mislif yn agosach at adref.
Fferyllfeydd yn cynnal y nifer uchaf erioed o ymgyngoriadau ar gyfer materion iechyd cyffredin
Cynhaliodd fferyllfeydd ar draws Cymru fwy na 600,000 o ymgyngoriadau clinigol ar gyfer ystod eang o faterion iechyd cyffredin yn ystod y 12 mis diwethaf.
Gwaith uwchraddio cyfleusterau pêl-droed merched Cymru gwerth £1m
Bydd cae 3G newydd ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd yn gwella hyfforddiant i fenywod a merched ledled Cymru.
Tîm Cymru i gario brand Cymru Wales i'r podiwm yn Glasgow 2026
Mae brand 'Cymru Wales' Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Thîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2026, gan nodi'r tro cyntaf i'r brand ymddangos ar ddillad athletwyr wrth iddynt gystadlu ar lwyfan y byd yr haf hwn.