“Meddyginiaeth ydyw. Ond dyw e ddim yn dod mewn bocs” - sut mae presgripsiynu cymdeithasol yn newid bywydau ar draws Cymru

“This is medicine. It just doesn't come in a box” - how social prescribing is changing lives across Wales

Bob bore dydd Sadwrn ers chwe blynedd, mae Richard Wheeler wedi rhoi ei esgidiau rhedeg a mynd i parkrun Aberbîg – ac mae'n brysur yn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn ymuno ag ef.

“Ron i'n 50 oed, ychydig dros fy mhwysau, yn smygu, a meddyliais - rhaid i mi wneud rhywbeth am y peth,” meddai Richard, yn siarad ar Ddiwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol (Mawrth 26).

Presgripsiynu cymdeithasol yw atgyfeirio pobl at weithgareddau cymunedol i wella eu hiechyd a'u llesiant, yn hytrach na chael meddyginiaethau ar bresgripsiwn neu fathau eraill o gymorth clinigol.

Yn dechnegydd therapi galwedigaethol, sydd wedi rhedeg ei parkrun lleol fwy na 100 o weithiau, mae Richard bellach yn argymell presgripsiynu cymdeithasol i'w gleifion ei hun, i'w gydweithwyr - a hyd yn oed i'w fab a'i ferch, oherwydd mae'n dweud nad yw'r manteision yn ymwneud ag iechyd corfforol yn unig.

Ychwanegodd: “Mae'n rhoi trefn i'ch diwrnod - mae'n rhaid i chi godi, mae'n rhaid i chi fod yno, a fyddan nhw ddim yn aros am neb. I rai pobl, dim ond ar ddydd Sadwrn, i redeg, maen nhw'n dod allan o'r tŷ. Mae'n atal ynysu. Diben fy swydd i yw galluogi pobl i ddod o hyd i'w peth nhw, ac mae parkrun yn gwneud hynny. Dim ond 5k ar fore dydd Sadwrn ydyw - ond mae'n fwy na hynny mewn gwirionedd. Meddyginiaeth ydyw. Ond dyw e ddim yn dod mewn bocs.”

Mae'r defnydd o bresgripsiynau cymdeithasol wedi cynyddu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a parkrun yw un o'r nifer o weithgareddau blaenllaw yn yr ymdrech hon.

P'un a yw pobl yn siarad â rhywun ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, tai, addysg, neu sefydliad cymunedol i ddechrau, neu'n eu cyfeirio eu hunain, does dim drws anghywir.

Gall unrhyw ymarferydd neu wasanaeth helpu i lywio pobl tuag at y cymorth cywir. Gall hyn amrywio o grwpiau cerdded a gweithgareddau celfyddydol i gyngor ar fudd-daliadau a gwasanaethau cyfeillio. Yn hytrach nag estyn am y pad presgripsiwn, gall meddyg teulu, nyrs, swyddog tai neu weithiwr cymorth arall gyfeirio rhywun at sefydliad lle gallant ddod o hyd i gymorth yn y gymuned i wella eu llesiant corfforol neu feddyliol.

Canfuwyd bod tua un o bob pump o ymgyngoriadau meddygon teulu yn ymwneud yn bennaf â phroblemau cymdeithasol yn hytrach na phroblemau meddygol. Gyda phresgripsiynu cymdeithasol, gallai person gael ei atgyfeirio oherwydd unigrwydd, profedigaeth, cyflwr iechyd hirdymor, neu bryderon ariannol.

Ychwanegodd Richard: “Mae'n gymuned. Dw i wrth fy modd gyda pha mor gynhwysol ydyw; rydych chi'n mynd yno ac mae rhywun yn ei 80au, a rhywun 10 oed, yr holl bobl hyn o bob cefndir gwahanol - dw i wrth fy modd! Mae fel teulu bach i fod yn deg - wel teulu enfawr!”

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach naill ai'n cyfeirio pobl a staff at parkrun, neu'n bwriadu gwneud hynny'n fuan, gan wneud Cymru y genedl gyntaf yn y DU lle mae pob bwrdd iechyd yn rhoi parkrun ar bresgripsiwn.

Mae canllawiau a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn fel rhan o'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn amlinellu beth yw'r arfer gorau o ran y model Cymreig derbyniol o bresgripsiynu cymdeithasol, heb fod yn gaeth o ran sut mae hyn yn cael ei gyflwyno mewn gwahanol gymunedau.

Mae'r ddogfen yn amlinellu set o safonau a gwerthoedd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, a chanllawiau ar sut i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd, gyda'r nod o sefydlu presgripsiynu cymdeithasol fel dull cydnabyddedig a chredadwy o sicrhau gwell llesiant i'r cyhoedd o fewn systemau iechyd a gofal.

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Isabel Oliver, sydd hefyd yn rhedwr brwd:

“Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cydnabod bod iechyd da yn cael ei siapio nid yn unig mewn clinigau, ond hefyd gan ein cymunedau, ein cartrefi, ein gwaith a'n perthnasoedd.

“Mae cysylltu pobl â chefnogaeth gymunedol a’u helpu i ffurfio arferion iach fel rhedeg neu roi'r gorau i smygu yn helpu i atal salwch, ac yn cefnogi pobl i fyw bywydau hirach, iachach a bodlon.

“Ar Ddiwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol, rwyf am ddathlu'r gwaith anhygoel sy'n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru, a'r sefydliadau a'r ymarferwyr sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.”

Dywedodd Cydlynydd Cenedlaethol parkrun Cymru, Chris Davies MBE:

“Mae parkrun yn dod â phobl at ei gilydd, p'un a ydych chi'n cerdded, yn loncian, yn rhedeg, yn gwirfoddoli neu'n gwylio. Bob wythnos, rydyn ni'n gweld pobl yn cyrraedd am y tro cyntaf ac yn teimlo'n nerfus, ond maen nhw’n gwenu wrth adael. Y cwbl sydd ei angen yw cymryd y cam cyntaf hwnnw. Maen nhw'n dod yn ôl yr wythnos ganlynol i amsugno'r awyrgylch hapus ac iach unwaith eto.  

“Gall mynd allan, symud eich corff, a theimlo'n rhan o gymuned wirioneddol newid bywyd. Mae pobl ar draws Cymru yn darganfod parkrun diolch i'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r mudiadau gwirfoddol sy'n eu cyfeirio nhw, a thrwy eu cymhelliant eu hunain. Rydyn ni yma i'w croesawu.”