Newyddion

Canfuwyd 18 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Amgueddfa Lechi-2

Hwb o £2.4m i Amgueddfa Lechi Cymru

Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cyllid ychwanegol i Amgueddfa Cymru i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru

Welsh Government

Castell Caerffili i gau am y gaeaf i osod pont newydd

Mae Castell Caerffili yn cau i ymwelwyr dros y gaeaf i osod pont newydd yn lle'r hen bont bren sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes. 

Castell Coch - Cadw-2

Castell Coch yn gwisgo'i goch gorau ar gyfer y Nadolig

Mae'r sgaffaldiau wedi dod i lawr yn y castell eiconig gan ddatgelu'r coch hanesyddol go iawn – mewn pryd ar gyfer y Nadolig

Welsh Government

Miloedd o bunnoedd o waith wedi'u dadwneud mewn oriau: Cadw yn galw am weithredu ar droseddau treftadaeth yr hanner tymor hwn

Mae pobl yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol a rhoi gwybod am fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treftadaeth ar safleoedd hanesyddol Cymru yr hanner tymor hwn ar ôl i werth miloedd o bunnoedd o ddifrod gael ei achosi ar safle sydd newydd ei adnewyddu yng ngorllewin Cymru.

Minister for Culture at Welsh Museums Festival

Tymor y bwganod a ffocws ar hwyl sy'n fwy ecogyfeillgar yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru 2026

O ymweliadau arswydus â Charchar Rhuthun, i ddraig gopr 20 troedfedd o faint yn Rhaeadr Gwy, i flychau ystlumod yn y Rhondda, mae digonedd o hwyl ar gael dros hanner tymor mis Hydref wrth i Ŵyl Amgueddfeydd Cymru gychwyn am y ddeuddegfed flwyddyn.

Diwylliant-2

Deufis i fynd – dweud eich dweud am ddiwylliant a chwaraeon yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobl, sefydliadau, grwpiau cymunedol chwaraeon a diwylliant i ddatblygu strategaeth newydd, uchelgeisiol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru.

Welsh Government

[Fersiwn Gogledd Cymru] Ehangu mynediad i ddiwylliant Cymru: £550,000 i gefnogi prosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

Bydd dau ar bymtheg o brosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol - gan helpu i gyflawni ymrwymiad Rhaglen Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at ddiwylliant - gyda dros £550,000 yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad.

Welsh Government

[Fersiwn De Cymru] Ehangu mynediad i ddiwylliant Cymru: £550,000 i gefnogi prosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

Bydd dau ar bymtheg o brosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol - gan helpu i gyflawni ymrwymiad Rhaglen Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at ddiwylliant - gyda dros £550,000 yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad.

Welsh Government

Ehangu mynediad i ddiwylliant Cymru: £550,000 i gefnogi prosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

Bydd dau ar bymtheg o brosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol - gan helpu i gyflawni ymrwymiad Rhaglen Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at ddiwylliant - gyda dros £550,000 yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad.

Crown Copyright - Visit Wales - Criccieth Castle cropped

Ymchwil yn dangos gwir cyfraniad treftadaeth at swyddi, economi a chymunedau Cymru

Mae stori Cymru yn aml yn cael ei hadrodd drwy ein tirweddau, ein trefluniau ac yn yr adeiladau hanesyddol di-ri a'r henebion o'n hamgylch.  Yn ôl ymchwil newydd bwysig wedi'i chyhoeddi heddiw [dydd Gwener 9 Hydref], mae'r mannau hanesyddol hyn – a elwir yn 'amgylchedd hanesyddol' – yn cefnogi bron i 18,000 o swyddi ac yn cyfrannu mwy na £738 miliwn i economi'r wlad bob blwyddyn.

Crown Copyright - Visit Wales - Criccieth Castle

Cipio cestyll a holi hanes: plant am ddim ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr

Bydd plant a phobl ifanc yn gallu crwydro rhai o gestyll a safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig Cymru am ddim y dydd Sul hwn [13 Medi] fel rhan o ddathliadau i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr.

heledd fychan-2

Codi Pontydd Digidol: Arloesedd Cymru yn gosod y llwyfan ar gyfer Cenhadaeth Masnach a Diwylliant y Gweinidog yn yr Unol Daleithiau

Bydd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yn teithio i Efrog Newydd a Washington D.C. wythnos yma ar ymweliad trawsatlantig cyntaf Llywodraeth newydd Cymru, gan ddefnyddio dylanwad a chryfder diwylliannol a chreadigol Cymru i greu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach, buddsoddi a chydweithio â'r Unol Daleithiau.