Newyddion
Canfuwyd 25 eitem, yn dangos tudalen 2 o 3
Pwyso Chwarae: cefnogaeth i gemau fideo arloesol lwyddo
Dyfarnwyd cyllid i ddeuddeg busnes creadigol i ddatblygu gemau fideo arloesol a phrofiadau ymgolli
Artistiaid o Gymru'n swyno cynulleidfa yn Tokyo ar gychwyn taith ddiwylliant Cymru a Japan
Mae grŵp o artistiaid blaenllaw a phwysigion diwydiant creadigol Cymru wedi cyrraedd Japan i roi hwb i gyfleoedd rhwng y ddwy wlad.
Taro'r nodyn cywir: Cronfa yn dyfarnu dros £700,000 i fusnesau cerddoriaeth Cymru
Trydedd rownd o gyllid yn cefnogi 21 o leoliadau cerddoriaeth, stiwdios a busnesau ledled Cymru.
Mynediad am ddim i blant i safleoedd Cadw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr
Ddydd Sul nesaf [dydd Sul 14 Medi], bydd llawer o safleoedd diwylliannol, cestyll a henebion ledled Cymru yn rhad ac am ddim i blant ymweld â nhw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr.
Tirnod diwylliannol Gogledd Cymru yn derbyn hwb ariannol mawr
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hwb ychwanegol o £3.3 miliwn i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis heddiw.
Gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys hanesyddol Sant Silyn bron wedi dod i ben
Mae gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys Sant Silyn yn Wrecsam bron wedi dod i ben, gan sicrhau dyfodol yr eglwys hanesyddol am flynyddoedd lawer i ddod.
Darllenwyr ifanc yn barod am antur ddarllen yr haf
Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn cael eu dathlu yr haf hwn gyda rhaglen gyffrous wedi'i chynllunio i ennyn diddordeb plant mewn darllen yn ystod gwyliau'r ysgol a buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau digidol.
Grant o £250,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu i drawsnewid Caerllion Rufeinig
Mae prosiect ‘partneriaeth’ newydd i archwilio cyfleoedd posibl yn un o safleoedd milwrol Rhufeinig mwyaf ac a gadwyd orau yn Ewrop wedi sicrhau £250,000 o gyllid grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Gweddnewidiad canoloesol! Ailagor Neuadd Fawr Castell Caerffili
Ar ôl dwy flynedd o waith cadwraeth ac adnewyddu helaeth, mae Castell Caerffili - y castell mwyaf yng Nghymru - yn ailagor i ymwelwyr y penwythnos hwn, gan ddod â'r Neuadd Fawr, ward fewnol y castell yn ôl yn fyw a dadorchuddio arddangosfeydd digidol o'r radd flaenaf.
Cyfarthfa yn dathlu 200 mlynedd gyda hwb o £4.5miliwn
Wrth i Gastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed, mae rheswm arall i ddathlu - bydd Ardal Dreftadaeth eiconig Cyfarthfa yn cael £4.5miliwn i ymgymryd â gwaith cadwraeth brys i helpu i sicrhau ei dyfodol am flynyddoedd lawer mwy i ddod.
Cymorth creadigol ar gyfer ymddangosiad cyntaf Cymru yn Ewros y Menywod
Wrth i fenywod Cymru baratoi i chwarae yn y Swistir y penwythnos hwn ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf ym mhencampwriaeth Ewro 2025, mae llawer o brosiectau yn digwydd ledled y wlad a thu hwnt i ddathlu'r cyflawniad enfawr hwn.
Parod at y Dyfodol: Trawsnewid llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau lleol Cymru
Bydd cymunedau lleol ledled Cymru yn elwa o gyfleusterau diwylliannol a gwasanaethau llyfrgelloedd gwell a mwy hygyrch diolch i oddeutu £1.8m o gyllid.