Tafwyl - Visit Wales Brand Hub

O Tafwyl i gemau tennis: haf o chwaraeon, diwylliant a chymuned

From Tafwyl to tennis: a summer of sports, culture and community

Heddiw, mae gŵyl gerddoriaeth Gymraeg Tafwyl yn cychwyn haf o ddigwyddiadau diwylliannol, chwaraeon a chymunedol ledled y wlad ac a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae £1.35 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer 24 o sefydliadau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys £30,000 i Tafwyl – gŵyl y bu edrych ymlaen mawr amdani – ac sy'n dechrau heddiw yng Nghaerdydd [dydd Sadwrn 20 Mehefin], gan roi llwyfan i amrywiaeth o fandiau, cantorion a pherfformiadau Cymraeg.

Ymysg y digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal diolch i'r cymorth ariannol hwn mae:

  • Criced dynion yng Nghlwb Criced Morgannwg, Caerdydd, a fydd yn cynnwys timau o Sri Lanka ac India
  • Gŵyl Unearthed y penwythnos hwn [dydd Gwener 19 Mehefin hyd at ddydd Sul 21 Mehefin] yn Sir Benfro, sy'n dathlu ymwybyddiaeth, creadigrwydd a chymuned
  • Bydd Gŵyl Undod Hijinx, un o raglenni celf gynhwysol fwyaf Ewrop, yn cael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint ac yng Nghaerdydd
  • Gŵyl Tonnau ar Ynys Môn, sy'n ei disgrifio ei hun fel 'garddwest drofannol' rhwng y môr a’r mynyddoedd
  • Ras feicio Tour of Britain i fenywod ym mis Awst, a fydd yn teithio ar hyd ffyrdd Gogledd Cymru a Phowys
  • Gŵyl Para Chwaraeon, a fydd yn dod â 6 champ wahanol i Fangor ac i dde Cymru
  • Tennis Agored Lexus yn Wrecsam ddiwedd fis Hydref, sef y digwyddiad tennis mwyaf a gynhelir yn y DU y tu hwnt i dymor haf y cyrtiau glaswellt

Cynhyrchodd digwyddiadau ledled Cymru a gefnogwyd yn flaenorol [yn 2025/26] effaith economaidd uniongyrchol o £54.75 miliwn, gan gefnogi dros 1,000 o swyddi yn yr economi dwristiaeth ehangach, a denu tua 151,000 o ymwelwyr o'r tu allan i Gymru.

Cyn mynychu Tafwyl, dywedodd Heledd Fychan, y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon:

"Mae Cymru wastad wedi bod yn genedl sy'n dathlu ei diwylliant, ei chreadigrwydd a'i hysbryd cymunedol, ac mae tymor yr haf eleni yn enghraifft berffaith o hynny.

"O'r perfformiadau Cymraeg yn Tafwyl i dennis o'r radd flaenaf yn Wrecsam, y celfyddydau cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin a phara chwaraeon ym Mangor, mae'r buddsoddiad hwn o £1.35 miliwn yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd ar draws y wlad. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi sefydliadau i gyflwyno digwyddiadau sy'n wirioneddol adlewyrchu'r gorau o bwy ydym ni."

Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg:

"Mae Tafwyl yn adlewyrchiad gwych o sut mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno yn y dathliadau eleni. Mae'n dod â phobl ynghyd yng nghanol ein prifddinas, gan hyrwyddo ein diwylliant ac ysbrydoli rhagor o bobl i ymuno â ni ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg.

"Mae hefyd yn hwb sylweddol i'n heconomi leol, gan greu swyddi a denu miloedd o ymwelwyr i fwynhau'r gorau o gelfyddyd, cerddoriaeth, bwyd a chrefftau Cymru. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Tafwyl."

Nodiadau i olygyddion

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi £61,000 yng ngŵyl Tafwyl o gyllideb Cymraeg 2050.