“Mae diwylliant a chwaraeon yn feysydd o bwys, nid yn opsiynol neu’n braf eu cael”
“Culture and sport are areas of importance, not optional or simply nice to have”
- Strategaeth newydd, uchelgeisiol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru
- Data a thystiolaeth gadarn i dargedu cymorth lle mae'r effaith fwyaf
- Cydnabod manteision iechyd a lles ataliol y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon
Mae’r Llywodraeth newydd yn benderfynol o unioni’r diffyg strategaeth, gweledigaeth a chefnogaeth ar gyfer meysydd diwylliant a chwaraeon Cymru am eu bod yn feysydd sydd o bwys, nid yn rhywbeth opsiynol neu’n braf eu cael.
Drwy weithio yn draws bortffolio, mae bwriad i sicrhau bod potensial diwylliant a chwaraeon i chwarae rhan ganolog er budd pobl, cymunedau ac economi Cymru yn cael eu gwireddu.
Dyna’r neges gan y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon Heledd Fychan wrth iddi amlinellu ei blaenoriaethau heddiw i’r Senedd, fel rhan o’i chynllun 100 diwrnod cyntaf.
Dywedodd hefyd bydd ei gweledigaeth a'i phenderfyniadau yn cael eu hategu gan ddata a thystiolaeth gadarn i dargedu cymorth lle mae'r effaith fwyaf.
Cam pwysig yw datblygu dealltwriaeth glir o gyflwr presennol diwylliant a chwaraeon am ein bod yn etifeddu sefyllfa lle nad oes data digonol yn bodoli ar y funud, na dealltwriaeth glir o anghenion y sectorau hyn.
Mae gwaith wedi dechrau ar gomisiynu archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol i lywio buddsoddiad cyfalaf wedi'i dargedu dros dymor y llywodraeth a thu hwnt
Pwysleisodd y pwysigrwydd o gydnabod manteision iechyd a lles ataliol y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon. Yn y 100 niwrnod cyntaf bydd adolygiad o gyfleoedd ar gyfer buddsoddi mewn diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon i lywio’r amcan o weld cynnydd cynyddol mewn gwariant yn y meysydd hyn.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn ymgynghori ar strategaeth newydd, uchelgeisiol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru er mwyn dylunio system wrth wraidd y llywodraeth lle maent yn chwarae rhan allweddol wrth atal a thrin salwch, ysgogi twf economaidd, a chyfrannu at ddyfodol ffyniannus i bob cymuned.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae'r blaenoriaethau hyn yn nodi dechrau taith a dechrau pennod newydd i ddiwylliant a chwaraeon yma yng Nghymru. Rwy’n gwbl glir – maent yn feysydd o bwys, nid yn opsiynol neu'n braf eu cael.
“Mae’r Llywodraeth hon yn credu yng ngrym diwylliant a chwaraeon i drawsnewid bywydau, i gyfrannu i’r weledigaeth o symud tuag at agenda iechyd ataliol er mwyn gosod ein Gwasanaeth Iechyd ar sylfaen fwy cynaliadwy, ac am ein bod yn benderfynol o adeiladu Cymru lle mae creadigrwydd yn ffynnu.
“Rwy’n edrych ymlaen i weithio’n draws bortffolio a gyda rhanddeiliaid a phobl Cymru i weithredu’r strategaeth a’r weledigaeth newydd yma i Gymru.”