Newyddion
Canfuwyd 140 eitem, yn dangos tudalen 1 o 12

Dathlu arwyr cymunedol yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr
Mae miloedd o fywydau ledled Cymru wedi cael eu gwella gan wirfoddolwyr y mae eu gwaith hanfodol wedi cael ei ddathlu gan Lywodraeth Cymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr.

Arweinwyr ifanc yng Ngheredigion yn mynd i'r afael â thlodi mislif mewn ysgolion
Mae pobl ifanc yng Ngheredigion yn gwneud newidiadau gwirioneddol i urddas mislif, gan greu datrysiadau ymarferol sy'n gwella bywydau ar draws eu hysgol a thu hwnt.

Nwyddau mislif am ddim mewn mwy o fannau ledled Cymru
Mae nwyddau mislif am ddim bellach ar gael mewn mwy o fannau cyhoeddus ledled Cymru, diolch i’r gronfa Urddas Mislif gwerth £3.2m gan Lywodraeth Cymru.

Cymru yn ehangu mynediad digidol i drigolion tai cymdeithasol
Bydd cyfle i fwy o bobl mewn tai cymdeithasol ddod yn ddefnyddwyr technoleg ddigidol hyderus cyn bo hir, wrth i Lywodraeth Cymru ehangu ei gynllun grant ‘Safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol’ llwyddiannus i gyrraedd mwy o ddarparwyr tai ledled Cymru.

Uchelgais newydd ar gyfer cynhwysiant a chyfranogiad pobl anabl yng Nghymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei Chynllun Hawliau Pobl Anabl, sy'n nodi uchelgais gadarnhaol ar gyfer hyrwyddo hawliau a chyfleoedd pob person anabl ledled Cymru dros y degawd nesaf.

Hwb ariannol o £1.5m ar gyfer 25 o brosiectau i fynd i'r afael â thlodi plant
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £1.5m i 25 o sefydliadau sy'n gweithio gyda theuluoedd mewn tlodi ar draws Cymru. Bydd y prosiectau hyn yn gwella sut mae gwasanaethau’n gweithio gyda'i gilydd, gan ganolbwyntio ar atebion ymarferol i helpu i godi plant allan o dlodi a chreu gwell cyfleoedd ar gyfer eu dyfodol.

Hwb cyllid yn rhoi bywyd newydd i fannau lle mae cymunedau'n dod ynghyd
O glybiau chwaraeon i ganolfannau teuluol sy'n cynnig cymorth hanfodol, bydd 14 o leoliadau cymunedol ledled Cymru yn cael bywyd newydd, diolch i fuddsoddiad newydd o £3m gan Lywodraeth Cymru.

Hwb cyllid newydd o £2m i gefnogi goroeswyr cam-drin
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dros £2m o gyllid ychwanegol i roi cymorth a chyngor i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Miloedd yn darganfod eu bod yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol
Mae miloedd o bobl ar incwm isel ledled Cymru wedi sicrhau £170m yn ychwanegol trwy hawlio budd-daliadau nad oeddent yn gwybod bod ganddynt yr hawl i'w cael, diolch i wasanaethau cyngor am ddim gan Lywodraeth Cymru.

Undeb credyd symudol cyntaf Cymru yn agor wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi hwb ariannol newydd o £1.3m
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.3m ychwanegol i ehangu opsiynau credyd fforddiadwy, gan helpu miloedd yn fwy o bobl ledled Cymru i gael mynediad at wasanaethau ariannol teg.

£1.5m i gefnogi teuluoedd ar incwm is
Mae cyllid nawr ar gael i helpu sefydliadau i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â thlodi plant ledled Cymru.

Chwalu rhwystrau: Menywod Cymru yn arwain mewn bywyd cyhoeddus
Mae menywod o bob cwr o Gymru yn camu i rolau arweiniol ac yn newid wyneb bywyd cyhoeddus, diolch i raglen fentora arloesol sydd newydd sicrhau tair blynedd arall o gyllid.