Diogel, cynnes a chysylltiedig: hybiau yn helpu cymunedau y gaeaf hwn
Safe, warm, and connected: community hubs helping communities this winter
Mae hybiau diogel a chynnes yn rhoi cefnogaeth hanfodol i bobl y gaeaf hwn, gan gynnig mannau croesawgar i gadw'n gynnes, cysylltu ag eraill, a chael mynediad at gyngor a gwasanaethau yn ystod cyfnodau anodd.
Yn sgil Storm Darragh, a adawodd lawer o aelwydydd heb bŵer, mae'r hybiau cymunedol hyn wedi rhoi cefnogaeth hanfodol. Mae’r hybiau diogel a chynnes sydd wedi eu datblygu'n lleol i ddiwallu anghenion lleol, hefyd yn cynnig cymorth ymarferol, gan gynnwys cyngor ar hawliau dyled a lles; cyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau newydd a ffurfio cyfeillgarwch; a gwybodaeth am wasanaethau ariannol a chymunedol.
Yr wythnos hon, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, â'r hwb diogel a chynnes yn Llanddewi Felffre yn Sir Benfro i gwrdd â gwirfoddolwyr a diolch iddynt am eu hymroddiad
Mae Lynda Hill, sy'n cynrychioli Pwyllgor Neuadd Bentref Llanddewi Felffre, wedi gwirfoddoli yn y ganolfan ers 2002, gan helpu i reoli'r neuadd a threfnu digwyddiadau.
Meddai: "Rydyn ni'n arbennig o ddiolchgar am gymorth menter Ystafelloedd Cynnes, gan ei bod yn ein helpu ni i helpu'r rhai mwyaf anghenus yn ein cymuned. Collodd llawer o gartrefi yn yr ardal hon eu trydan a'u dŵr am gyfnod eithaf hir yn ystod ac ar ôl Storm Darragh. Yn ffodus, wnaeth hyn ddim effeithio ar y neuadd, ac felly fe wnaethon ni agor i gynnig lle cynnes, lle gallai unrhyw un ddefnyddio cyfleusterau coginio, toiledau, gwefru eu ffonau, a chysylltu ag eraill, lle bydden nhw wedi cael eu hynysu fel arall.
"Wrth wrando ar straeon am neuaddau a mentrau cymunedol eraill gan gynrychiolwyr a ddaeth i'r cyfarfod, roedd yn ysbrydoliaeth clywed am yr ystod enfawr o gefnogaeth sydd ar gael ledled Sir Benfro. Rydyn ni i gyd eisiau i bobl wybod ein bod ni yma drwy gydol y gaeaf, a bod canolfannau Ystafelloedd Cynnes yn darparu croeso cynnes a chyfeillgar i bobl o bob oed a chefndir."
Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1.5m mewn cyllid i sicrhau y gall hybiau barhau â'u gwaith hanfodol y gaeaf hwn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae hybiau, fel yr un yn Llanddewi Felffre, yn enghraifft wych o gymunedau yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd yn ystod cyfnodau anodd. Mae gwirfoddolwyr wrth wraidd y canolfannau hyn, ac yn rhoi croeso cynnes a chynhwysol i bobl mewn angen.
"Rydyn ni'n gwybod y gall misoedd y gaeaf fod yn anodd i lawer, a dyna pam rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu pwysau ariannol a sicrhau'r incwm mwyaf posibl. Mae ein buddsoddiad mewn hybiau diogel a chynnes yn rhan o’n pecyn ehangach o gefnogaeth i helpu pobl drwy'r heriau costau byw."
Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro wedi bod yn allweddol o ran sianelu'r cyllid ar gyfer mannau cynnes, ac mae'n cynnal fforwm rheolaidd i'r rhai sy'n ymwneud ag adeiladau cymunedol, sy'n amhrisiadwy ar gyfer rhannu syniadau a phrofiad.
Mae rhaglenni eraill Llywodraeth Cymru i helpu cymunedau y gaeaf hwn yn cynnwys:
- Siarter Budd-daliadau Cymru i gael gwared ar rwystrau i hawlio budd-daliadau;
- £30 miliwn ar gyfer y rhaglen Cartrefi Cynnes i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi incwm is;
- £700,000 yn ychwanegol ar gyfer Sefydliad y Banc Tanwydd i helpu'r rhai sy'n rhagdalu am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu - gan adeiladu ar y £5.6m a fuddsoddwyd ers 2022; a
- £1.7m yn ychwanegol i gefnogi teuluoedd ac unigolion sy'n wynebu tlodi bwyd, gan adeiladu ar y £2.8m a fuddsoddwyd eisoes eleni, gan ddod â'r cyfanswm i fwy na £24m yn y maes hwn ers 2019.
I gael cyngor ar gymorth ariannol, gall pobl gysylltu â llinell gymorth 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ Advicelink Cymru ar 0808 250 5700.
Diwedd.