£700k ychwanegol i ddarparu eitemau hanfodol am ddim i gymunedau
Extra £700k to provide free essential items to more communities
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £700,000 i helpu Cwtch Mawr, banc-bob-dim yn Abertawe, i ymestyn ei gyrhaeddiad a chynnig eitemau hanfodol am ddim i hyd yn oed fwy o bobl mewn angen.
Mae Cwtch Mawr yn dosbarthu nwyddau dros-ben, fel cynnyrch glanhau, nwyddau ymolchi a dodrefn, gan weithio gyda dros 60 o bartneriaid fel gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd, ac elusennau i gyfeirio’r nwyddau i bobl. Ers ei lansio ym mis Mawrth y llynedd, mae Cwtch Mawr eisoes wedi cefnogi dros 120,000 o bobl - tair gwaith ei darged o 40,000 ar gyfer y flwyddyn gyntaf.
Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn caniatáu i Cwtch Mawr ymestyn ei wasanaethau gan helpu rhagor o deuluoedd ac unigolion.
Caiff Cwtch Mawr ei redeg gan elusen Faith in Families o Abertawe, a dywedodd ei Brif Weithredwr, Cherrie Bija: "Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn ein hehangu. Gyda'u cefnogaeth, rydym eisoes wedi darparu bron i hanner miliwn o eitemau hanfodol i dros 100 o elusennau yn Abertawe i'w dosbarthu i'r rhai mewn angen – a hynny yn 2024 yn unig. O gwiltiau i blant sy'n cysgu heb orchudd drostyn nhw i airfryers sy'n helpu teuluoedd i reoli biliau cyfleustodau, mae ein gwaith wedi trawsnewid bywydau ar draws Abertawe.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i dyfu a chyrraedd hyd yn oed mwy o deuluoedd ac unigolion, cynyddu ein rhwydweithiau, gan sicrhau bod gan bawb fynediad at yr hanfodion sydd eu hangen arnynt i oroesi a chael eu trin ag urddas a pharch. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i gael effaith wirioneddol ar ein cymuned, drwy ddefnyddio nwyddau dros-ben i helpu i achub ein planed, cael gwared ar dlodi a gofalu am ein pobl."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae costau byw cynyddol yn golygu bod mwy o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio'r pethau sylfaenol. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag mynd i dlodi a rhoi cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Rhwng 2022 a 2025 mae'r gefnogaeth yma wedi bod werth bron i £5bn. Mae'r cyllid hwn ar gyfer Cwtch Mawr yn gam arall tuag at gefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw.
"Mae Cwtch Mawr yn enghraifft wych o beth mae modd ei gyflawni pan fydd elusennau, busnesau, a'r llywodraeth yn cydweithio. Mae ehangu ei gyrhaeddiad yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cael yr help sydd ei angen arnynt, pan fyddant ei angen fwyaf.
"Mae ailddefnyddio eitemau heb eu gwerthu nid yn unig yn cefnogi teuluoedd ond hefyd yn torri gwastraff a hyrwyddo economi gylchol."
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £125,000 i helpu i sefydlu'r banc-bob-dim, ac mae'r cyllid diweddaraf hwn yn rhan o’i ymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â thlodi a chefnogi mentrau arloesol a gaiff eu harwain gan y gymuned.