£300,000 i adfywio Eglwys Sant Marc ar gyfer cymuned Parc Caia
£300k to revitalise St Mark’s Church for the Caia Park community
Mae Eglwys Sant Marc ym Mharc Caia, Wrecsam, yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan ar gyfer chwaraeon, drama, clybiau cinio, a mwy, diolch i £300,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru.
Mae'r cyllid wedi cael ei wario ar waith adnewyddu sylweddol, gan gynnwys system wresogi, toiledau hygyrch, ramp mynediad, a tho newydd, ac ailwampio'r gegin a thrawsnewid mannau cyfarfod. Bydd y gwelliannau hyn yn galluogi’r eglwys i ehangu ei gweithgareddau gan barhau i gynnal gwasanaethau hanfodol fel Banc Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a chyfnewidfa ddillad reolaidd.
Meddai'r Parchedig Ganon Jonathan Smith, arweinydd y prosiect yn Sant Marc: "Mae Sant Marc wastad wedi bod wrth galon bywyd ym Mharc Caia. Ochr yn ochr â'r banc bwyd ac archfarchnad gymdeithasol o'r enw Clwb Bwyd Caia, rydym yn cynnal digwyddiadau ar gyfer plant a theuluoedd, clybiau gwyliau, ac yn croesawu ymweliadau gan ysgolion lleol. Mae Sant Marc hefyd yn gartref i'r Brownies ac wedi cefnogi cyfnewidfa ddillad.
"Mae'r cyllid yma wedi ein galluogi i wella'r adeilad gymaint. Nawr byddwn yn gallu gwneud hyd yn oed mwy i ddod â phobl at ei gilydd, cynnig cefnogaeth, a gwneud i bobl deimlo bod croeso i bawb yma."
Gyda'r gwaith adnewyddu bron â dod i ben, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt â'r eglwys yr wythnos hon i weld y trawsnewidiad. Dywedodd: "Mae Sant Marc yn enghraifft wych o sut y gall prosiectau a arweinir gan y gymuned greu mannau lle gall pobl ddod ynghyd, cael mynediad at wasanaethau, a chefnogi ei gilydd.
"Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr a'r sefydliadau sydd wedi gweithio mor galed i wneud hyn yn bosibl. Rwy'n falch o gefnogi prosiectau fel y rhain, sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i gymunedau lleol."
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi ariannu dros 450 o gyfleusterau cymunedol ledled Cymru ers iddi agor yn 2015. Mae'r prosiectau hyn wedi elwa o grantiau gwerth tua £63m.