English icon English
sara EPEV-2

Chwalu rhwystrau: Menywod Cymru yn arwain mewn bywyd cyhoeddus

Breaking Barriers: Welsh women lead the way in public life

Mae menywod o bob cwr o Gymru yn camu i rolau arweiniol ac yn newid wyneb bywyd cyhoeddus, diolch i raglen fentora arloesol sydd newydd sicrhau tair blynedd arall o gyllid.

Mae'r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn agor drysau i fenywod o bob cefndir wasanaethu ar fyrddau cyhoeddus, sefyll ar gyfer swyddi gwleidyddol, a llunio penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'r straeon am lwyddiannau sy'n deillio o'r fenter hon yn dangos sut y gall mentora a chymorth wireddu breuddwydion.

Mae Sara Crowley o Gwm Cynon yn gweithio i'r GIG ac yn fam i efeilliaid pedair oed. Darganfu rym ei llais ei hun drwy gymryd rhan yn y rhaglen. Dywedodd: "Drwy'r rhaglen, dysgais werthfawrogi pwysigrwydd fy llais, a'r ffordd y gallaf ei ddefnyddio mewn mannau lle na fyddwn wedi breuddwydio y byddai'n cael gwrandawiad. Helpodd y rhaglen fi i sylweddoli mai fy llais i yw fy nghryfder, a ddylwn i fyth fod ofn ei ddefnyddio.

"Ers cwblhau'r rhaglen, rwy' wedi dod yn rhiant lywodraethwr yn ysgol fy mhlant. Rwy' wedi gweld bod cymdeithas yn ei chyfanrwydd yn symud ymlaen ac yn gwella pan fo byrddau sy'n gwneud penderfyniadau yn fwy amrywiol ac yn cynrychioli'r bobl.”

Wrth gyhoeddi'r cyllid o £185,000 am dair blynedd gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae rhaglenni fel Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn hanfodol ar gyfer creu Cymru fwy cynrychioliadol. Trwy weithdai ar fod yn ymgeisydd gwleidyddol, arwain bwrdd ac ymgyrchu dros newid cymdeithasol, mae'r rhaglen hon yn creu ffynhonnell gref o arweinwyr amrywiol ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026, yn ogystal â byrddau corfforaethol a chyhoeddus a chyrff llywodraethu ysgolion. Pan fydd merched ifanc yn gweld menywod yn arwain, maen nhw'n gallu dychmygu eu hunain yn yr un ffordd. Dyna sut i adeiladu dyfodol lle mae bywyd cyhoeddus Cymru yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau o ddifri."

Mae'r cyfranogwyr yn elwa ar fentora un i un gyda ffigurau dylanwadol gan gynnwys Aelodau Senedd Cymru a San Steffan, cynghorwyr lleol, ac uwch arweinwyr o'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.