Cyllid ychwanegol i helpu teuluoedd i gael credyd diogel cyn y Nadolig
Extra funding to help families access safe credit ahead of Christmas
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllid ychwanegol i gryfhau undebau credyd, gan sicrhau opsiynau benthyca teg a hygyrch i'r rhai mewn angen.
Wrth i'r Nadolig agosáu, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chymorth i bobl a allai fod yn teimlo straen ariannol. Mae £408,719 ychwanegol yn cael ei roi i undebau credyd, gan gynnig rhwyd ddiogelwch hanfodol i unigolion a theuluoedd sydd angen manteisio ar fenthyca teg a fforddiadwy yn ystod cyfnodau heriol.
Gall credyd fforddiadwy fod yn anodd ei gael, yn enwedig i bobl ar incwm is, gan fod opsiynau prif ffrwd yn aml yn gostus neu allan o gyrraedd. Mae undebau credyd ar gael iddyn nhw pan fydd costau annisgwyl yn codi. P'un ai ar gyfer pethau fel atgyweirio car ar frys neu drwsio boeler sydd wedi torri, gall cael benthyciad bach tymor byr gan undeb credyd olygu'r gwahaniaeth rhwng delio ag argyfwng a wynebu dyled gynyddol.
Drwy gynyddu'r cyllid ar gyfer y naw undeb credyd sy'n gweithredu ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwasanaethau hyn yn fwy hygyrch, fel y gall unigolion a theuluoedd reoli eu cyllid heb bryderu.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Mae bywyd yn gallu bod yn amhosibl ei ragweld, a ddylai pobl ddim gorfod poeni am ble maen nhw'n gallu troi os bydd argyfwng yn codi. Gall y Nadolig fod yn amser arbennig o gostus. A byddwn i'n annog y rhai sy'n ei chael hi'n anodd a allai fod yn wynebu risg benthycwyr stepen drws llog uchel neu fenthycwyr arian didrwydded, i droi at eu hundeb credyd lleol yn lle - sy'n gallu rhoi mynediad at gredyd teg a fforddiadwy.
"Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cryfhau'r cymorth y mae undebau credyd yn ei gynnig mewn cymunedau ledled Cymru, gan helpu pobl nid yn unig i ymdopi â heddiw ond hefyd i feithrin cydnerthedd ariannol ar gyfer y dyfodol."
Ers 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £1.2 miliwn i undebau credyd i ehangu eu benthyca trwy gynnig benthyciadau 'cychwynnol' a benthyciadau 'adeiladu credyd' newydd, gan helpu mwy na 3,600 o bobl i gael benthyciadau fforddiadwy am y tro cyntaf. Bydd y cyllid diweddaraf hwn yn ehangu gwasanaethau undebau credyd ymhellach, gan ddarparu cymorth gwerthfawr i aelodau newydd ac i'r aelodau sy'n dychwelyd trwy gydol y gaeaf.
Un o'r undebau credyd fydd yn elwa ar y buddsoddiad yw Smart Money Cymru, sy'n darparu gwasanaethau ariannol i bobl yn ardaloedd Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd.
Dywedodd Mark White, Prif Weithredwr Smart Money Cymru: "Fel sefydliadau cymunedol, mae undebau credyd yno i helpu pawb, yn enwedig y rhai sy'n cael trafferth cael gafael ar gyllid.
"Mae cynllun ehangu benthyciadau Llywodraeth Cymru yn hanfodol i helpu undebau credyd fel Banc Cymunedol Smart Money Cymru i roi benthyciadau i bobl â phroffiliau credyd gwael, fel y gallant ailadeiladu eu gallu ariannol a dechrau tyfu pot cynilo ochr yn ochr ag ad-dalu eu benthyciad. Mae hyn yn cael ei ategu gan ein partneriaeth â Chyngor Sir Blaenau Gwent a phenodiad diweddar y Cynghorydd Jules Gardner yn Bencampwr Undeb Credyd y sir sydd â chylch gwaith i helpu i fynd i'r afael â thlodi a mynediad at gyllid."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £637,000 mewn gwelliannau digidol ar gyfer undebau credyd, gan sicrhau y gallant gynnig gwasanaethau ar-lein sy'n debyg i'r rhai a ddarperir gan fanciau. Mae hyn yn golygu bod gan bobl ledled Cymru fynediad hyblyg a hawdd at gymorth ariannol pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
I ddod o hyd i'ch undeb credyd agosaf ac am fwy o fanylion ar sut i gael mynediad atynt, ewch i wefan Undebau Credyd Cymru.