
Bywyd newydd i 57 o adeiladau yng Nghymru
57 Welsh buildings set for new lease of life
Ymhlith y 57 o brosiectau cymunedol sy'n rhannu cyllid newydd gwerth £4.8m gan Lywodraeth Cymru mae canolfan gymunedol newydd yn Nryslwyn sy'n cynnwys swyddfa bost a siop, gwelliannau sylweddol i Glwb Rygbi y Tyllgoed yng Nghaerdydd a chyn-ysgol gynradd yng Nghribyn, Ceredigion.
Mae'r cyllid gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn helpu grwpiau cymunedol ledled Cymru i brynu a gwella safleoedd. Y bwriad yw creu mannau sy'n dod â phobl ynghyd i gysylltu, dysgu sgiliau newydd a manteisio ar wasanaethau hanfodol.
Yn Nryslwyn, Sir Gaerfyrddin, bydd cyllid yn helpu i sefydlu canolfan gymunedol bwrpasol a all gynnig gwasanaethau lleol hanfodol gan gynnwys siop a swyddfa bost. Bydd Clwb Rygbi y Tyllgoed yn cael £300,000 i ailddatblygu'r adeilad presennol, gan greu mwy o ofod cymunedol a gwella cyfleusterau gan gynnwys inswleiddio a gwresogi. Yng Ngheredigion, bydd £195,000 yn helpu i adfer hen ysgol gynradd Cribyn i'w rôl fel canolfan gymunedol hanfodol ar ôl bod yn segur i raddau helaeth am 15 mlynedd.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol y buddsoddiad yn ystod ymweliad ag Academi Cyfryngau Cymru yng Nghaerdydd. Llwyddodd Academi Cyfryngau Cymru i sicrhau £300,000 mewn rownd flaenorol o gyllid ym mis Hydref 2024 i brynu eu hadeilad presennol. Mae Academi Cyfryngau Cymru yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd hanfodol i gymunedau Caerdydd, gan roi cymorth arbennig i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau rhag addysg a chyflogaeth. Mae eu hadeilad yn fan cymunedol sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac mae'n helpu dros 6,000 o bobl bob blwyddyn, gan gynnwys mwy na 300 o deuluoedd mewn argyfwng.
Dywedodd Prif Weithredwr Academi Cyfryngau Cymru, Nick Corrigan: "Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru, drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, yn fuddsoddiad mewn cefnogi pobl mewn cymunedau lle mae adeiladau nad ydynt yn cael defnyddio yn dod wrth wraidd cyfiawnder cymdeithasol ac adfywio. Mae’r grant yn golygu bod ein hadeilad, sy'n hawdd ei gyrraedd i bobl ledled y ddinas, yn cynnig lle a chefnogaeth i bobl sydd â rhwystrau i gyflawni eu potensial. Rydyn ni’n arbennig o falch ein bod ni, trwy’r grant yma, wedi gallu prynu swyddfa a oedd yn wag cynt a'i throi'n ganolfan gymunedol ffyniannus sy’n cael ei defnyddio gan filoedd o bobl."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae Academi Cyfryngau Cymru yn dangos gwir effaith cyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. Mae pob cymuned yn haeddu cael mannau lle mae modd i bobl ymgynnull, dysgu a chefnogi ei gilydd. Nid gwelliannau i'r adeiladau yn unig yw'r rhain - maen nhw'n fuddsoddiadau mewn ysbryd cymunedol, cyfleoedd lleol a dod â phobl at ei gilydd. Rwy'n cael fy ysbrydoli'n barhaus gan angerdd ac ymroddiad gwirfoddolwyr a sefydliadau sy'n trawsnewid y syniadau hyn yn realiti."
Ers 2015, mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi helpu i greu neu ddiogelu mwy na 500 o fannau cymunedol ledled Cymru, gyda chyfanswm y buddsoddiad bellach yn cyrraedd bron i £68m.