Newyddion
Canfuwyd 99 eitem, yn dangos tudalen 1 o 9

Nwyddau mislif am ddim mewn mwy o fannau ledled Cymru
Mae nwyddau mislif am ddim bellach ar gael mewn mwy o fannau cyhoeddus ledled Cymru, diolch i’r gronfa Urddas Mislif gwerth £3.2m gan Lywodraeth Cymru.

Hwb cyllid newydd o £2m i gefnogi goroeswyr cam-drin
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dros £2m o gyllid ychwanegol i roi cymorth a chyngor i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Bywyd newydd i 57 o adeiladau yng Nghymru
Ymhlith y 57 o brosiectau cymunedol sy'n rhannu cyllid newydd gwerth £4.8m gan Lywodraeth Cymru mae canolfan gymunedol newydd yn Nryslwyn sy'n cynnwys swyddfa bost a siop, gwelliannau sylweddol i Glwb Rygbi y Tyllgoed yng Nghaerdydd a chyn-ysgol gynradd yng Nghribyn, Ceredigion.

Bywyd newydd i leoliadau cymunedol ar draws Cymru
Mae dros 450 o leoliadau cymunedol ledled Cymru wedi cael eu hachub, eu gwella neu wedi cael eu creu o'r newydd gyda chymorth buddsoddiad gwerth £63m gan Lywodraeth Cymru - gan gadw lleoliadau hanfodol yn agored yn lleol wrth helpu cymunedau i greu canolfannau newydd lle gall pobl ddod at ei gilydd.

Cyhoeddi cynigion i wella'r cydbwysedd o ran rhywedd yn y Senedd
Heddiw (11 Mawrth), rydym yn cyhoeddi cynigion cyfreithiol pwysig i gynyddu cyfran y menywod sy'n sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cryfhau cysylltiadau â Llywodraeth Iwerddon yn ystod taith Dydd Gŵyl Dewi
Mae'r Gweinidog, Jane Hutt, wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru yn ystod taith i Ddulyn i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

'Bydd Siarter Budd-daliadau Cymru yn ei gwneud yn haws i bobl hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael', meddai'r Gweinidog
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi addo bod "gan Siarter Budd-daliadau Cymru y potensial i fod o fudd i filoedd o bobl sy'n byw mewn tlodi".

"Mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud," meddai'r Gweinidog
"Mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud." Dyna y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt wedi ymrwymo iddo.

"Rydyn ni'n ymdrechu i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer pobl anabl ledled Cymru," meddai'r Gweinidog.
Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau i wella bywydau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda chynnydd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol a chlywed am yr effaith gadarnhaol ar y rhai sy’n cymryd rhan ynddo,” meddai’r Gweinidog
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi canmol y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y cynllun peilot Incwm Sylfaenol a’r nifer sydd wedi manteisio arno ar ôl cwrdd â phobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n cymryd rhan yn y rhaglen arloesol.

Y cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn cefnogi person ifanc sydd wedi gadael gofal ag uchelgais o ddod yn barafeddyg
Mae person ifanc sydd wedi cofrestru â chynllun peilot Incwm Sylfaenol arloesol Llywodraeth Cymru wedi canmol y cynllun am gefnogi ei huchelgais i ddod yn barafeddyg.

"Bydd dileu'r stigma o siarad am y misglwyf mewn chwaraeon yn annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan," meddai'r Gweinidog
Bydd dileu'r stigma o siarad am y misglwyf yn helpu i annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon, meddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt.