English icon English
Partneriaeth Ogwen-3

Bywyd newydd i leoliadau cymunedol ar draws Cymru

New life for community spaces across Wales

Mae dros 450 o leoliadau cymunedol ledled Cymru wedi cael eu hachub, eu gwella neu wedi cael eu creu o'r newydd gyda chymorth buddsoddiad gwerth £63m gan Lywodraeth Cymru - gan gadw lleoliadau hanfodol yn agored yn lleol wrth helpu cymunedau i greu canolfannau newydd lle gall pobl ddod at ei gilydd.

Yn neuaddau pentref, clybiau chwaraeon ac eglwysi, mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi rhoi ail wynt i leoliadau sy'n dod â phobl at ei gilydd, gan gynnig cyfleoedd i gysylltu, dysgu sgiliau newydd, a chael gafael ar wasanaethau hanfodol.

Ers 2015, mae'r rhaglen wedi helpu cannoedd o grwpiau lleol ledled Cymru i ddiogelu a datblygu'r lleoliadau hyn, sydd yn galon i'w cymunedau.

Ym Methesda, mae Partneriaeth Ogwen wedi defnyddio'r cyllid i drawsnewid hen ysgol er mwyn creu Canolfan Cefnfaes. Dyma leoliad bywiog sy'n darparu lle ar gyfer grwpiau a gweithgareddau lleol, unedau busnes, mannau gwaith sy'n cael eu rhannu, a chyfleusterau hanfodol fel gwefru cerbydau trydan, Wi-Fi, ac adnoddau TG.

Dywedodd Donna Watts, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen: "Menter gymdeithasol yw Partneriaeth Ogwen, sydd yn canolbwyntio ar gymuned, yr economi a chynaliadwyedd, ac mae Canolfan Cefnfaes yn adlewyrchu'r gwerthoedd hyn. Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi ein helpu i ni allu ddefnyddio adeilad poblogaidd unwaith eto, a hynny er budd y gymuned.

"Mae 'na gynnwrf go iawn yma - mae pob dim ar gael, o ddosbarthiadau celf a nosweithiau gyrfa chwist i sesiynau karate, ynghyd ag unedau busnes a mannau gwaith sy'n caniatáu i bobl weithio'n lleol yn hytrach na chymudo. Mae'n cryfhau ein hymdeimlad o gymuned, yn cadw ein heconomi'n lleol, ac yn well i'r amgylchedd."

Yr wythnos hon, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, â Bethesda i weld  y gwahaniaeth y mae'r cyllid yn ei wneud drosti hi ei hun. Dywedodd: "Mae cymunedau cryf angen lleoliadau lle gall pobl ddod at ei gilydd, ac roeddwn wrth fy modd yn ymweld â Chanolfan Cefnfaes i weld sut mae ein cefnogaeth yn gwneud i hynny ddigwydd.

"Ledled Cymru, mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi helpu cymunedau i ddiogelu lleoliadau poblogaidd tra hefyd yn creu lleoedd newydd neu well sy'n bwysig iddyn nhw. Nid gwella adeiladau yn unig yw nod y prosiectau hyn - maen nhw'n creu cyfleoedd, yn cefnogi economïau lleol, ac yn dod â phobl at ei gilydd. Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr a'r sefydliadau sy'n gwireddu'r syniadau hyn drwy eu hangerdd a'u gwaith caled."

 

Nodiadau i olygyddion

Llun Ch-Dd: Lliwen Morris, Rheolwr Cyllid ac Eiddo Partneriaeth Ogwen; Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol; Donna Watts, Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Ogwen - yng Nghanolfan Cefnfaes gydag un o'r ceir cymunedol a ddarperir gan Bartneriaeth Ogwen.