'Canolfannau cymunedol ar draws Dwyrain Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas'
‘Community centres across East Wales play a crucial role in supporting the most vulnerable members of our society’
Wrth agor canolfan gymunedol sydd wedi elwa ar arian gan Lywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol fod canolfannau cymunedol ar draws Dwyrain Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.
Mae cyllid gan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi helpu canolfannau cymunedol - ynghyd ag amrywiaeth o gyfleusterau eraill - i wneud gwelliannau a gwaith atgyweirio ac ailddatblygu ledled Cymru.
Bob blwyddyn gall prosiectau wneud cais am grantiau o hyd at £300,000 i dalu am gost uwchraddio eu cyfleusterau cymunedol, yn ogystal â grantiau bach o hyd at £25,000.
Yn y flwyddyn ariannol 2021/22, dyfarnwyd grantiau gwerth bron i £7.7m i 71 o brosiectau ar draws Cymru.
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu prynu a gwella cyfleusterau sy'n darparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.
Ymhlith y prosiectau sydd wedi elwa yn Nwyrain Cymru y mae Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn Nhorfaen a gafodd £148,556 i dalu am gost creu caffi cymunedol, gardd gymunedol, ystafell les/cwnsela, campfa a man hamdden; Groundworks Caerffili a gafodd £25,000 i adnewyddu'r adeilad, gan gynnwys gosod drysau a ffenestri sash newydd ac atgyweirio difrod a achoswyd gan ddŵr yn dod i mewn; Ymddiriedolaeth Mileniwm Pillgwenlli yng Nghasnewydd a gafodd £25,000 i ddiweddaru ac adnewyddu'r adeilad i gynnwys neuadd chwaraeon, toiledau, ystafelloedd newid, mynedfa a chyntedd, goleuadau LED a ffenestri a drysau; Gymnasteg Gwy a Galaxy Cheerleading yn Sir Fynwy a gafodd £78,683 i greu caffi cymunedol gan gynnwys toiledau hygyrch a ramp; ynghyd â Basecamp Co-op yng Nghas-gwent a gafodd £9,699 i ddarparu man diogel i bobl ifanc y gymuned allu ymgynnull a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Yn gynharach heddiw (21 Ebrill), aeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i agoriad swyddogol Canolfan Iechyd a Lles Roundhouse Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni.
Cafodd yr Ymddiriedolaeth grant o £250,000 yn 2012/22 er mwyn prynu a gosod y ganolfan gymunedol, y maen nhw'n cyfeirio ato fel y ‘Roundhouse’, sydd bellach yn helpu ystod eang o bobl.
Mae'r prosiect wedi helpu pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, wedi mynd i'r afael ag unigrwydd ac wedi cynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau sy’n fuddiol i’r gymuned leol, gan gynnwys clwb gwau, clybiau garddio, mwy na 50 o ddosbarthiadau a rhaglenni i wella ffitrwydd.
Meddai Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: "Rwyf mor falch bod y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi gallu helpu i gyflawni gweledigaeth Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran cefnogi iechyd a lles y gymuned leol.
"Deallwn fod gofodau fel hyn yn hanfodol i'r gymuned leol, fel lleoliad i glybiau gyfarfod ac ar gyfer cynnal rhaglenni iechyd a ffitrwydd a dosbarthiadau i bobl ddysgu ohonynt.
"Mae canolfannau cymunedol yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas ac rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi drwy bethau fel ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau ledled Cymru."
Dywedodd David Nicholson, wrth siarad am Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân: "Mae'r grant wedi ein helpu i chwyldroi'r Ganolfan yn llwyr mewn sawl ffordd ac yn rhoi'r potensial i ni greu mwy o incwm ar ein taith i gynaliadwyedd. Mae wedi ein galluogi i ddod â'r Ganolfan i’r 21ain ganrif o ran yr adeilad a throi mannau segur yn ganolfannau cymunedol newydd.
Ychwanegodd: "Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y defnydd o’r adeilad, er enghraifft yn ystod ein sesiynau galw heibio gyda’r nos, ac mae wedi ein galluogi i ddarparu amrywiaeth o raglenni hyfforddiant ac iechyd a lles a gweithgareddau na fyddai wedi bod yn bosibl o'r blaen. Fe wnaeth yr arian helpu i greu ein canolfannau cymunedol, gan roi pum canolfan newydd i ni.
"Mae'r newidiadau wedi bod yn hynod boblogaidd gyda phobl ifanc, staff a'r gymuned fel ei gilydd."