English icon English
Care leavers on Basic Income pilot scheme with FM, MSJ, DMSS and Prof Marmot-2

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda chynnydd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol a chlywed am yr effaith gadarnhaol ar y rhai sy’n cymryd rhan ynddo,” meddai’r Gweinidog

“We are delighted with the progress of the Basic Income pilot scheme and hearing about the positive impact on those taking part,” says Minister

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi canmol y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y cynllun peilot Incwm Sylfaenol a’r nifer sydd wedi manteisio arno ar ôl cwrdd â phobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n cymryd rhan yn y rhaglen arloesol.

Rhoddodd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru gyfle i bobl ifanc sy’n gadael gofal a oedd yn troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 gael taliad o £1,600 (cyn treth) y mis am gyfnod o ddwy flynedd.

Yn ystod y cyfnod cofrestru o 12 mis, a ddaeth i ben ar 30 Mehefin eleni, ymunodd 635 o bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru â’r cynllun peilot.

Mae’r gyfradd fanteisio dros dro o 97% yn dangos bod nifer sylweddol o bobl yn manteisio ar y cynllun arloesol hwn. Mae’r gyfradd fanteisio hon yn uwch na’r hyn a welir gyda chynlluniau incwm sylfaenol eraill y mae’n rhaid optio i mewn iddynt ledled y byd, gan adlewyrchu’r cynnig hael ac arloesol i’r grŵp hwn o bobl ifanc.

Mae gwerthusiad amlweddog o’r cynllun peilot bellach ar y gweill. Bydd yn ystyried sut mae’r cynllun peilot wedi cael ei weithredu, pa effaith y mae wedi ei chael a beth oedd y costau.

Yn dilyn dadansoddiad gofalus o’r agweddau hyn, mae cynlluniau i gyhoeddi cyfres o adroddiadau thematig yn ystod y rhaglen ymchwil pedair blynedd. 

Mae disgwyl y bydd y gwerthusiad yn parhau am sawl blwyddyn.

Y rheswm am hyn yw y bydd y cynllun ymchwil yn olrhain effaith y cynllun peilot ar fywydau’r derbynwyr nawr, yn ogystal â thros y blynyddoedd nesaf wrth iddynt ddod yn oedolion.

Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, Jane Hutt, yn bresennol mewn digwyddiad yn ymwneud â’r cynllun peilot incwm sylfaenol yng ngwesty’r Future Inn yng Nghaerdydd ddydd Mercher (25 Hydref), ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd fod yr adborth cynnar a gafodd wrth siarad ag unigolion sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn gadarnhaol, ond byddai’n cymryd blynyddoedd i’r effaith ar y garfan a’r canlyniadau gael eu hasesu’n llawn.

“Rydyn ni wedi clywed adborth gwych hyd yma gan y rhai sydd wedi cofrestru. Rydyn ni wrth ein bodd bod y nifer uchaf erioed wedi manteisio ar y cynllun peilot, ond mae’n ddyddiau cynnar o hyd, a bydd yn cymryd blynyddoedd i asesu’r gwir effaith ar eu bywydau,” meddai.

“Mae wedi bod yn bleser cwrdd â llawer o bobl sydd wedi elwa ar y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru heddiw, a chlywed am y gwahaniaeth y mae’r taliadau’n ei wneud i’w bywydau nawr ac i’w cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Nawr rydyn ni’n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc wrth iddynt drosglwyddo o’r cynllun peilot, ac yn dysgu am yr effaith y mae wedi’i chael ar eu bywydau.”

Wrth siarad yn y digwyddiad yn ystod Wythnos Genedlaethol Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal wrth iddyn nhw fynd drwy’r cyfnod anodd o dyfu i fod yn oedolion.

“Rydyn ni’n deall y bydd rhaid aros i weld yr effaith y bydd y cynllun peilot wedi’i chael ar y rhai sy’n cymryd rhan ynddo, ond rydyn ni’n obeithiol y byddwn ni’n gweld y gwahaniaeth cadarnhaol y mae wedi’i wneud i’w bywydau a’r cyfleoedd y mae wedi’u cyflwyno iddynt na fyddent wedi’u cael fel arall.”

 

Nodiadau i olygyddion

Pic Caption: Care leavers on the Basic Income pilot scheme with First Minister Mark Drakeford, Minister for Social Justice and Chief Whip Jane Hutt, Deputy Minister for Social Services Julie Morgan and Professor Michael Marmot

  • The Welsh Government has commissioned a multidisciplinary team of world experts in basic income, complex evaluations, social care and social security interventions, led by CASCADE at Cardiff University.
  • This expert team will assess how the pilot was experienced and delivered, as well as the costs and benefits to wider society.
  • The Welsh Government intend to publish the first report of the evaluation series in early 2024.
  • This report will have a focus on the implementation period to date and will draw upon the attitudes of professionals involved in the pilot’s delivery.