Newyddion
Canfuwyd 105 eitem, yn dangos tudalen 7 o 9
Dyblu cymorth tanwydd gaeaf i helpu teuluoedd â’r argyfwng costau byw
Bydd taliad y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn cael ei ddyblu i £200 wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt heddiw.
Mae’r taliad untro o £100, a lansiwyd ym mis Rhagfyr, bellach yn cael ei estyn i helpu aelwydydd cymwys â chostau a biliau ynni cynyddol.
Mae’n rhan o Gronfa Gymorth i Aelwydydd bwrpasol Llywodraeth Cymru, sy’n darparu £51m o gymorth wedi’i dargedu i deuluoedd a’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i fynd i'r afael â'r Argyfwng Costau Byw
Gyda phryderon ynghylch yr ‘Argyfwng Costau Byw’ y mae teuluoedd ledled Cymru yn ei wynebu yn cynyddu, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi amlinellu'r pecyn cymorth cyfan a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i leihau'r baich ar deuluoedd yng Nghymru.
Mynegi pryderon am ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi “pryderon gwirioneddol” am gynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau.
Cyhoeddi enw’r Comisiynydd Plant Cymru nesaf
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Rocio Cifuentes fydd Comisiynydd Plant newydd Cymru.
£21m ar gyfer dyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru
Fe gaiff £7m y flwyddyn ei roi i gefnogi’r sector gwirfoddol yng Nghymru dros dymor presennol Llywodraeth Cymru, ymrwymiad o dros £21m dros y tair blynedd nesaf.
Dylai dinasyddion yr UE gael cynnig prawf o’u statws ar bapur
Mae llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnig dogfen bapur i ddinasyddion yr UE i brofi eu statws sefydlog neu gyn-sefydlog.
“Mae'n gwbl hanfodol i ddynion fel ni ddechrau herio ein hymddygiad sy'n gyfrifol am wneud i fenywod deimlo'n llai diogel.” – Nazir Afzal, cyn-Brif Erlynydd a Chynghorydd i Lywodraeth Cymru
Mae ymgyrch newydd sy'n galw ar y cyhoedd i herio rhagdybiaethau ynghylch aflonyddu ar fenywod - a ystyrir ar gam ei fod yn ‘ddiniwed’ yn aml - wedi cael ei lansio ledled Cymru.
Cymru a'r Alban yn uno i alw am drafodaethau ar bryderon ynghylch polisi lloches y DU
Mewn llythyr eang, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a Shona Robison, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol yr Alban, wedi ysgrifennu i’r Swyddfa Gartref yn gofyn am drafodaethau brys ar y pryderon sylweddol mewn perthynas â Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU, a gofynwyd hefyd am drafodaethau i helpu i atal colli rhagor o fywydau yn y Sianel.
Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn agor ddydd Llun 13 Rhagfyr
Cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn agor ddydd Llun 13 Rhagfyr. Bydd pobl gymwys yng Nghymru yn gallu hawlio un taliad o £100 gan eu hawdurdod lleol fel cyfraniad at dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn. Bydd gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefannau’r Awdurdodau Lleol.
“Mae trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer.”
Dylai sgyrsiau ynglŷn ag atebolrwydd am drais yn erbyn menywod ganolbwyntio ar ymddygiad y cyflawnwyr yn lle ymddygiad y dioddefwyr yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wrth i'r byd gofio Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod.
Y Prif Weinidog yn ymuno â heddlu Wrecsam ar y strydoedd
Ymunodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford â swyddogion yr heddlu ar y strydoedd yn Wrecsam heddiw [dydd Mercher, 24 Tachwedd] i wrando ar eu profiadau ac i weld hefyd sut y gall Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) a ariennir gan Lywodraeth Cymru helpu i gadw cymunedau yn ddiogel.
Cronfa gymorth gwerth £51m i helpu teuluoedd sy’n dioddef waethaf o ganlyniad i’r argyfwng costau byw
Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru heddiw y bydd pecyn cymorth newydd gwerth £51m yn helpu teuluoedd sy'n wynebu'r argyfwng costau byw i dalu eu biliau'r gaeaf hwn.
Mae Llywodraeth Cymru’n rhyddhau arian ychwanegol o'i chronfeydd wrth gefn i helpu aelwydydd incwm is, gan ddarparu cymorth ar unwaith i bobl sy'n wynebu costau byw cynyddol y gaeaf hwn.
Bydd cam cyntaf y Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn targedu gwresogi a bwyta – gan roi cymorth ychwanegol i deuluoedd dalu eu biliau ynni dros y gaeaf a rhoi arian ychwanegol i fanciau bwyd a chynlluniau bwyd cymunedol.
Daw hyn wrth i Lywodraeth y DU wrthod gwrthdroi'r penderfyniad i dynnu’r cynnydd o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol sydd wedi bod yn allweddol i ddegau o filoedd o deuluoedd, ac mae Banc Lloegr yn rhybuddio y bydd chwyddiant yn codi i 5% erbyn y gwanwyn, gan wthio prisiau hyd yn oed yn uwch.