English icon English
Winter Fuel-2

Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn agor ddydd Llun 13 Rhagfyr

Winter Fuel Support Scheme opens Monday 13th December

Cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn agor ddydd Llun 13 Rhagfyr. Bydd pobl gymwys yng Nghymru yn gallu hawlio un taliad o £100 gan eu hawdurdod lleol fel cyfraniad at dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn. Bydd gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefannau’r Awdurdodau Lleol.

Wrth gyhoeddi’r pecyn pellach o gyllid, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Mae aelwydydd Cymru o dan straen ariannol nas gwelwyd mo’i fath o’r blaen, sydd wedi gwaethygu yn sgil yr argyfwng costau byw a phenderfyniad creulon Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod â’r cynnydd i’r Credyd Cynhwysol i ben, ac yn golygu bod mwy o bobl a phlant yn byw mewn tlodi.

Heddiw rydym yn ychwanegu at y cyhoeddiadau blaenorol am y Gronfa Cymorth i Aelwydydd a’r Cynllun Ymdopi â Thywydd Oer, sy’n nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd gyda’n partneriaid i ddiogelu aelwydydd incwm is ac sy’n agored i niwed yn ystod cyfnodau o dywydd oer.

Felly, rwy’n falch o gyhoeddi bod y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn agor ddydd Llun, 13 Rhagfyr. Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu ag aelwydydd ledled Cymru a allai fod yn gymwys i’w gwahodd i wneud cais am y taliad. Gall unrhyw un nad ydynt wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol, ac sy’n teimlo’u bod yn gymwys ar gyfer y taliad, gyflwyno hawliad drwy wefan yr awdurdod lleol o ddydd Llun ymlaen. Bydd ar gael i bob cwsmer ynni cymwys p’un a ydynt yn talu am danwydd ar fesurydd ymlaen llaw neu fesurydd credyd.

Hoffwn ddiolch i’n partneriaid mewn Llywodraeth Leol am sicrhau bod y cynllun yn barod cyn y Nadolig. Bydd hyn yn help mawr i’r mwyaf anghenus yn y cyfnod hwn.”

I gloi, dywedodd y Gweinidog:

“Rydym yn ymwybodol bod pobl ledled Cymru yn wynebu heriau nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen, a dyna pam ein bod yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r pwysau ariannol ac i helpu teuluoedd gyda’u costau byw – gan gefnogi teuluoedd, busnesau a chymunedau drwy’r cyfnod anarferol hwn.”