English icon English
Victim Support-2

Cynnydd mawr yn yr adnoddau i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol wrth iddyn nhw roi tystiolaeth

Major increase in the availability of facilities to protect victims of domestic abuse and sexual violence to give evidence across Wales

Mae proses newydd i alluogi dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol i roi tystiolaeth yn ddiogel drwy gyfleuster cyswllt fideo wedi lansio ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £400,000 mewn 13 o gyfleusterau newydd ledled Cymru i sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi i roi tystiolaeth mewn achosion sy'n ymwneud â cham-drin domestig a thrais rhywiol. 

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

"Mae trais rhywiol a cham-drin yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Ni allwn ond dechrau mynd i'r afael â'r broblem hon os ydym yn sicrhau bod dioddefwyr y troseddau hyn yn teimlo'n ddigon diogel i ddod ymlaen a rhoi’r dystiolaeth a fydd yn sicrhau cyfiawnder ac yn dwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif.

"Y cyfleusterau newydd hyn yw'r cyntaf o'u math yn y DU. Rwy'n falch ein bod yn arwain y ffordd yma yng Nghymru, gan barhau â'n hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr pryd bynnag, ble bynnag a sut bynnag y mae ei angen arnynt.

Bydd y cyfleusterau newydd yn rhoi'r gallu i dystion bregus ac ofnus i leisio eu barn mewn ffordd sy'n lleihau'r ofn, y straen a'r pryder sy'n aml yn gysylltiedig â rhoi tystiolaeth mewn llys agored."

Dywedodd Prif Erlynydd y Goron Cymru, Jenny Hopkins:

"Gwyddom fod gorfod rhoi manylion personol a gofidus yn bersonol i ystafell lys brysur, yn aml o flaen y cyflawnwr, yn rhwystr enfawr i ddioddefwyr sy'n adrodd am drosedd. Mae'r prosiect hwn wedi'i lywio gan brofiad uniongyrchol dioddefwyr a'r materion y maent wedi dweud wrthym eu bod wedi'u hwynebu wrth roi tystiolaeth am eu camdriniaeth.

“Bydd y cyfleusterau hyn gobeithio’n dileu rhywfaint o'r ofn a'r pryder sy'n gysylltiedig â rhoi tystiolaeth, gan sicrhau y gall dioddefwyr camdriniaeth yng Nghymru roi eu tystiolaeth mewn amgylchedd diogel a chefnogol.”

Un o'r bobl gyntaf i ddefnyddio'r gwasanaeth newydd oedd person a ddioddefodd gamdriniaeth gorfforol am fwy nag 20 mlynedd gan ei phartner. 

Dywedodd hi:


"Roeddwn i'n arswydo wrth feddwl am wynebu fy nghamdriniwr yn y llys ac er fy mod i eisiau cyfiawnder, dydw i ddim yn meddwl y gallwn i fod wedi gwneud hynny’n bersonol.

“Roedd gallu rhoi fy nhystiolaeth mewn lleoliad diogel, ymhell o ystafell y llys a chyda cefnogaeth cynghorydd cam-drin domestig annibynnol, wedi rhoi’r hyder yr oedd ei angen arnaf i roi fy nhystiolaeth a chael cyfiawnder am y blynyddoedd lawer o niwed yr wyf wedi'i ddioddef."

Mae'r safleoedd newydd hyn yn rhan o ymdrechion mwy cyffredinol i sicrhau cydweithio ar draws asiantaethau drwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru er mwyn cyflawni’r uchelgais gyffredinol o leihau troseddu a gwella'r gefnogaeth i ddioddefwyr

Dywedodd Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y Fonesig Vera Baird QC:

"I lawer o ddioddefwyr, gall y syniad o fynd i'r llys a dod wyneb yn wyneb â'u camdrinwyr fod yn ofidus iawn a’u hatal rhag dod ymlaen i roi gwybod am eu profiadau, a’u gadael i ddioddef yn dawel.

Mae sicrhau bod gan bob dioddefwr yng Nghymru bellach fynediad at gyfleusterau cyswllt fideo yn gam arloesol gwych a fydd yn helpu i wella profiad y dioddefwr o'r system cyfiawnder troseddol ac yn annog mwy o ddioddefwyr i ddod ymlaen. Er bod cyfleusterau tebyg yn bodoli yn Lloegr, maent yn tueddu i gael eu tanddefnyddio, ac felly rwy'n gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn hybu hyn yn gyffredinol."