Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i fynd i'r afael â'r Argyfwng Costau Byw
Minister for Social Justice and Minister for Climate Change call for action from the UK Government to tackle the Cost of Living Crisis.
Gyda phryderon ynghylch yr ‘Argyfwng Costau Byw’ y mae teuluoedd ledled Cymru yn ei wynebu yn cynyddu, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi amlinellu'r pecyn cymorth cyfan a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i leihau'r baich ar deuluoedd yng Nghymru.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae biliau ynni yn uwch nag erioed, mae costau bwyd yn cynyddu ac mae chwyddiant yn codi i'r lefel uchaf ers degawd. Mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru yn teimlo'r pwysau ar eu cyllideb gartref.
Ar ben yr amgylchiadau hynod hyn, mae'r sefyllfa'n waeth o ganlyniad i benderfyniadau anhrugarog a wnaed gan Lywodraeth y DU. Wrth gyhoeddi Cyllideb ddiwethaf y DU, cafwyd cyfle i fynd i'r afael â'r pryderon hyn er mwyn lleihau'r pwysau dros gyfnod anodd y gaeaf, ond yn anffodus nid achubwyd ar y cyfle hwn.
Ond lle mae San Steffan wedi methu â chefnogi teuluoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi camu i'r bwlch i helpu ein cymunedau drwy'r cyfnod heriol hwn.
Gwnaethom gyflwyno mesurau brys er mwyn helpu i leddfu effaith y penderfyniad i ddileu'r taliad ychwanegol o £20.
Drwy ein Cronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £51 miliwn mae:
- £2 filiwn wedi'i ddyrannu i atal digartrefedd
- £38 miliwn wedi'i ddyrannu i'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i ddarparu taliad untro o £100 mewn arian parod er mwyn helpu aelwydydd cymwys i dalu eu biliau tanwydd gaeaf
- £1.1 miliwn wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael â thlodi bwyd, gan gynnwys £500,000 i helpu banciau bwyd i fodloni'r galw uwch a £657,000 i helpu i sefydlu 25 o brosiectau Big Bocs Bwyd ychwanegol yn Ardal Tasglu'r Cymoedd
- Byddwn yn cyhoeddi rhagor o gyllid o dan y Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn ystod yr wythnosau nesaf
Rydym hefyd wedi neilltuo £14.7 miliwn ychwanegol i'r Gronfa Cymorth Dewisol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol er mwyn sicrhau bod modd i'r cynllun barhau'n hyblyg. Drwy hyn, bydd yn bosibl darparu rhagor o daliadau, yn fwy aml, i bobl sy'n wynebu colli'r £20 ychwanegol sy'n cael ei ddileu o daliadau Credyd Cynhwysol.
Byddwn yn cynnig ein cymorth tanwydd gaeaf drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol eto ar gyfer cartrefi nad ydynt ar y grid, yn ogystal â grantiau trwsio boeleri tan 31 Mawrth 2022.”
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Rydym yn poeni'n fawr am y cynnydd ym mhrisiau ynni domestig a'r effaith y mae'n ei chael ar aelwydydd yng Nghymru, yn arbennig aelwydydd incwm isel sy'n wynebu'r risg o dlodi tanwydd, neu a oedd eisoes yn byw mewn tlodi tanwydd cyn y cynnydd a welwyd ym mis Hydref.
Fel rhan o Strategaeth Marchnad Manwerthu Ynni Llywodraeth y DU, rydym yn gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried o ddifrif gyflwyno cap gwahaniaethol ar gyfer tariffau ynni domestig neu dariff ynni cymdeithasol wedi'i dargedu er mwyn cefnogi aelwydydd incwm isel yn well. Drwy osod cap is i ddiogelu aelwydydd incwm isel rhag cynnydd na allant ei fforddio mewn prisiau, gellir sicrhau y bydd modd i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wresogi eu cartrefi'n ddigonol.
Rydym hefyd yn annog Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ychwanegol drwy gynlluniau megis y Gostyngiad Cartrefi Cynnes a thaliadau tanwydd gaeaf eraill y gaeaf hwn er mwyn lleihau'r baich ar deuluoedd sydd o dan bwysau.”
Gan amlinellu'r camau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r pwysau ar bobl yn ystod yr argyfwng costau byw, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Gwyddom fod y cynlluniau rydym wedi eu datblygu yn gweithio ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl mewn aelwydydd incwm isel. Ond gwyddom hefyd, gyda phrisiau ynni yn cynyddu a chwyddiant yn codi, fod angen inni wneud rhagor.
Byddaf yn cynnal trafodaeth bord gron â rhanddeiliaid allweddol a gweinidogion eraill ar 17 Chwefror i bennu'r camau pellach y gallwn eu cymryd gan ddefnyddio'r adnoddau polisi sydd ar gael inni ac i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn cefnogi aelwydydd ledled Cymru sy'n wynebu risg wirioneddol o niwed ariannol. Byddaf yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â'r aelodau ar ôl i'r trafodaethau hyn gael eu cynnal.
Yn olaf, byddwn yn parhau i gyflwyno ein hachos mor gryf â phosibl, ar y cyd â'r Alban a Gogledd Iwerddon, i Lywodraeth y DU, sydd wedi dangos nad oes ots yn y byd ganddi am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Fel y mae National Energy Action wedi'i ddatgan yn glir, mae gan Lywodraeth y DU y pwerau a'r adnoddau ariannol i fynd i'r afael â'r materion hyn.”
I gloi, dywedodd y Gweinidog:
“Y ffaith yw, nid yw Adolygiad o Wariant yr Hydref Llywodraeth y DU yn cyfrif am faint yr her rydym yn ei hwynebu er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sy'n dod i'r amlwg a buddsoddi mewn cynlluniau adfer er lles gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, cymunedau a theuluoedd yng Nghymru.
Er mai San Steffan sy'n rheoli'r rhan fwyaf o'r ysgogiadau ariannol, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i dargedu'r bobl hynny sydd fwyaf angen help a chymorth yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.”