Newyddion
Canfuwyd 274 eitem, yn dangos tudalen 1 o 23
Ystâd Natur Cymru yn lansio i ddiogelu tir a hinsawdd Cymru
Mae prif dirfeddianwyr Cymru yn uno am y tro cyntaf i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, gyda'r grŵp newydd wedi'i sefydlu i yrru plannu coed a chyrraedd targedau i ddiogelu 30% o dir ar gyfer natur erbyn 2030.
Cymru yn lansio darn 80km cyntaf Llwybr Coedwig Cymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio rhan gyntaf llwybr coedwig newydd 80km o hyd - carreg filltir bwysig yn hanes Coedwig Genedlaethol Cymru.
Cyhoeddi'r buddsoddiad uchaf erioed o £85m mewn camau atal llifogydd wrth i'r Dirprwy Brif Weinidog ymweld â chynllun amddiffyn arfordirol Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r buddsoddiad uchaf erioed o £85m mewn rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol ar gyfer eleni - y dyraniad blynyddol uchaf erioed yng Nghymru.
Cymru'n cryfhau mesurau diogelu'r amgylchedd wrth i Fil nodedig gael ei basio yn y Senedd
Mae Cymru wedi cymryd cam enfawr arall ymlaen o ran mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd ar ôl i'r Senedd basio deddfwriaeth amgylcheddol nodedig.
Camerâu wedi'u cyflwyno a dirwyon uwch wedi’u hystyried i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon
Mae cyllid ar gyfer camerâu gwyliadwriaeth newydd ac adolygiad o gosbau penodol am dipio anghyfreithlon yn rhan o gamau llymach sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.
Afonydd glanach, rheoleiddio cryfach, gwell atebolrwydd: Cymru'n paratoi cynllun newydd ar gyfer llywodraethu dŵr
"Mae'n bryd ailosod pethau yn sylfaenol - i ailadeiladu ymddiriedaeth – a’r gwaith yn dechrau nawr." Y Dirprwy Brif Weinidog
Caffi Trwsio Cymru yn arbed dros filiwn cilogram o allyriadau carbon deuocsid
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn lansio Fix-it-February mewn caffi trwsio dros dro yng Nghaerdydd.
Ystadegau newydd yn dangos bod lefelau ailgylchu yng Nghymru wedi codi unwaith eto
Mae lefelau ailgylchu wedi codi unwaith eto wrth i Gymru barhau ar ei thaith tuag at fod yn genedl ddiwastraff.
Uwch-gynhadledd ar ddŵr yn gweithio at afonydd iachach
"Gadewch i ni fwrw yn ein blaenau â'r gwaith hwn gyda'n gilydd er lles ein hafonydd, ein cymunedau a'n dyfodol" – Y Dirprwy Brif Weinidog
Darganfod y gacynen felyngoes yng Nghymru am y tro cyntaf
Mae nyth marw y gacynen felyngoes wedi'i ddarganfod ger Wrecsam. Dyma'r tro cyntaf i bresenoldeb y pryfyn gael ei gadarnhau yng Nghymru.
£80m i ariannu gwaith ar gannoedd o domenni glo ledled Cymru
Bydd cynllun grant aml-flwyddyn newydd yn galluogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ar dros 400 o hen safleoedd tomenni glo ledled Cymru, diolch i dros £80 miliwn o gyllid.
£1.8m i atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd yn dilyn Storm Claudia
Mae £1.8 miliwn o gyllid brys wedi'i gadarnhau i atgyweirio difrod seilwaith amddiffyn rhag llifogydd oherwydd Storm Claudia.